Ydych chi’n dymuno cael yr ysbrydoliaeth i newid eich bywydau? Dyma gyfle unigryw i ferched yr ardal i gael diwrnod iddyn nhw eu hunain a derbyn ychydig o gyngor ar sut i fyw eich bywyd gorau. Ar y 26ain o Hydref bydd diwrnod llesiant, arbennig i ferched, yn cael ei gynnal yn Theatr Derek Williams yn Y Bala. Cafodd ‘Diwrnod Genod Grymus’ ei sefydlu y llynedd gan Lliwen MacRae (Dolhendre) sydd bellach yn byw yn Seland Newydd ac erbyn hyn mae’n ddigwyddiad blynyddol. Yn dilyn symud i Seland Newydd mae Lliwen wedi ei chymhwyso fel annogwr personol (life coach) sydd yn cefnogi merched i wneud newidiau positif yn eu bywyd. Mae hi hefyd yn cynnal cyrsiau ‘Geni Grymus’ sydd yn gymysg o addysg cyn-enedigol cynhwysfawr a magu hunan hyder cyn roi geni. Er ei bod yn byw yn Seland Newydd mae hi’n gweithio yn ddwyieithog gan ganolbwyntio yn bennaf ar gynnig cyrsiau yn y Gymraeg gan ei bod yn gallu cynnig y gwasanaeth arlein. Dywedodd Lliwen wrth Y Cyfnod/ Corwen Times: “Mae’r Diwrnod Genod Grymus yn gyfle i feithrin ‘chydig o hunan ofal, meddylfryd bositif, cael cyfle i gymdeithasu, cefnogi a rhannu profiadau gyda merched eraill a hynny mewn gofod saff a gonest. “Dwi’n angerddol iawn fod angen i ddigwyddiadau llesiant fel hyn ddigwydd yn lleol, i ferched ac yn y Gymraeg. Mae pawb yn mynd trwy gyfnodau heriol yn eu bywyd ond fel merched yn enwedig, deni’n mynd trwy gyfnodau trawsnewidiol iawn yn gorfforol megis mislif/rhoi geni/menapos ac mae hyn yn gallu effeithio ar ein iechyd meddwl. “Fel rhan o’r diwrnod mi fyddai’n rhannu techengau are sut i deimlo’n hapusach yn dy groen dy hun a magu hunan hyder. Fel merched deni’n dueddol o redeg o gwmpas i bawb arall a rhoi anghenion ein hunain ar ddiwedd y rhestr – mae’r diwrnod yma yn rhoi cyfle i ferched roi eu hunain gyntaf sydd yn rywbeth mae rhai ohonom ni yn gweld yn anodd i’w wneud. Fyddai hefyd yn gwenud sesiwn ymlacio dwfn efo pawb, sydd wastad yn lyfli! ‘Mae dwy siaradwr gwadd yn ymuno efo ni ar y diwrnod hefyd i rannu eu profiadau personol, eu cyngor proffesiynol a gwybodaeth ar sut rydym ni yn gallu meithrin hunan ofal. “Un o’r siaradwyr ydy Dr Ffraid Gwenllian sydd gyda diddordeb mewn iechyd rhyw a sut i ddod i adnabod dy gorff yn well. Ein ail siaradwr gwadd ydy Non Parry o’r band Eden. Mae Non wedi bod yn agored iawn gyda ei siwrnau bersonol gyda iechyd meddwl ac gyda ei deiagnosis diweddar o gyflwr awtistiaeth. Mi fyddaf yn ei holi hi am ei hunangofiant ‘Paid a Bod Ofn’ a llyfr mai newydd gyhoeddi ‘Dynol Iawn’ sydd yn trafod profidadau unigolion gyda ADHD ac awtistiaeth. Bydd cyfle i gael sgwrs, hwyl a falle canu gyda Non a dwi rili edrych ymlaen!,” ychwanegodd. Mae’r diwrnod yn agored i pob dynes dros un ar bymtheg a bydd bwyd, diod ac adnoddau ychwangol yn gynwysiedig yn y pris tocyn o £39. Mae’r drysau yn agor am 9:00yb ac y diwrnod yn gorffen am 3:30yp. Beth am fwcio tocyn heddiw, ewch i wefan EventBrite a chwilio ‘Diwrnod Genod Grymus’. Hoffai Lliwen ddiolch i’r noddwyr: Williams Homes, Co-op Bala, Gwynedd Confectioners, Aykroyds & Sons, Guthrie Jones & Jones, Clwb Rygbi Y Bala,Siop SO68, Cwmni Pum Plwy Penllyn, Clwb Dartiau Y Bala, Amdanat, Meddwl.org, Parc Cenedlaethol Eryri, & Menter Iaith. Cofiwch gael eich tocynnau chi heddiw!