Pwy sy’n dweud y gwir?

Merched y Wawr, Y Bala. 

gan Dilys Ellis Jones
IMG_8646

Pwy sy’n dweud y gwir?

IMG_8644

Roedd ne hen grafu pen!

Cafwyd noson hwyliog iawn yng nghyfarfod Merched y Wawr, Y Bala wythnos yma.
Estynwyd croeso cynnes gan Buddug Parry i Glyn Cae Poeth, Eilir yr Hendre ac Al Tŷ Coch atom i drafod hen greiriau ac i ddweud straeon amdanynt!

Roedd ne hen grafu pen wrth i’r tri ddweud stori wahanol am ddefnydd pob eitem! Y gamp wedyn oedd i’r gynulleidfa benderfynu pa un oedd yn gywir! Roedd hyn yn orchwyl anodd iawn gan bod y tri yn feistri o ddweud celwydd, a perswadio’r gynulleidfa mai ei hesboniad nhw oedd yn gywir!

Noson addysgiadol a hwyliog!
Diolch am baned a bisged a lluniaeth hyfryd ar gyfer y dynion!