Gŵyl Gerallt

Y Bala yn gartef i wyl arbennig i gofio am Gerallt Lloyd Owen

gan Geraint Thomas

Heidiodd tyrfa deilwng iawn o bob cwr o Gymru i Benllyn dros y penwythnos ar gyfer Gŵyl Gerallt, gŵyl a drefnwyd gan Gymdeithas Barddas i nodi’r ffaith fod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers colli Gerallt Lloyd Owen, y pencerdd o’r Sarnau.

Ar ôl gig gartrefol yng ngofal Menter Gymunedol Llanuwchllyn yng nghwmni Bob Delyn a’r Ebillion a Katie Howells nos Wener, cafwyd rhaglen eithriadol gyfoethog o ddigwyddiadau yn y Clwb Golff ddydd Sadwrn.

Yn dilyn y talwrn rhwng disgyblion Ysgol Godre’r Berwyn ac Ysgol Dyffryn Conwy yn y bore, dechreuodd digwyddiadau’r pnawn gyda Darlith Goffa Gerallt gan Gruffudd Antur ar rai o gerddi anghyhoeddedig Gerallt.

Cafwyd wedyn gyfle i hel atgofion am Gerallt yng nghwmni Ynyr Williams, Angharad Elen, Elfyn Pritchard, Huw Jones, Elwyn Edwards ac Eilir Hendre, cyn i banel o chwe arbenigwr, dan lywyddiaeth y Prifardd Emyr Lewis, fynd ati i ddadlau pa un yw cerdd orau Gerallt.

Yna, fin nos, cafwyd ymryson hwyliog a safonol rhwng timoedd Penllyn, Llandwrog, Tir Iarll a Chilmeri yng ngofal y Meuryn, Twm Morys, a datganiadau bythgofiadwy o rai o gerddi Gerallt gan Arfon Gwilym, Sioned Webb a John Ogwen tra oedd y beirdd yn gweithio ar eu tasgau.

Daeth yr ŵyl i ben ddydd Sul gyda thaith gerdded dan arweiniad Eilir Hendre i Lyn Caereini, sef y llyn a anfarwolwyd gan Gerallt yn un o’i gerddi cynnar. Rhwng y cyfraniadau gloywon a’r dyrfa werthfawrogol, dyma ŵyl a oedd, gobeithio, yn goffadwriaeth deilwng i Gerallt, a diolch i bawb a fu’n gweithio mor galed i’w threfnu.

Lluniau – Aled Evans /Cymdeithas Barddas