Dechrau gwaith i gyflwyno llwybr teithio llesol rhwng Corwen a Chynwyd

Llwybr llesol

gan Lowri Rees Roberts

Dechrau gwaith i gyflwyno llwybr teithio llesol rhwng Corwen a Chynwyd

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dechrau gwaith i gyflwyno llwybr teithio llesol rhwng Corwen a Chynwyd.

Mae’r prosiect hwn yn rhan o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU a sicrhawyd drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd gynt, lle dyrannwyd £3.8 miliwn i Sir Ddinbych i fuddsoddi yng nghymunedau Llangollen, Llantysilio, Corwen a’r ardaloedd cyfagos.

Sicrhawyd cyllid pellach gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i leihau nifer y siwrneiau bychain bob dydd mewn cerbydau modur a chynyddu lefelau teithio llesol.

Mae’r prosiect yn cynnwys uwchraddio adrannau o hen linell y rheilffordd sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r B4401 i greu llwybr a rennir rhwng cerddwyr a beicwyr. Mae hefyd yn cynnwys cyflwyno wyneb tarmac a fydd yn sicrhau mynediad at y llwybr drwy gydol y flwyddyn a gosod croesfan heb reolaeth newydd i gerddwyr ar yr A5 ger ei chyffordd â’r B4401. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau gan G.H.James Cyf ac yn cymryd oddeutu pum mis.

Bydd y llwybr troed ar gau ar hyd yr hen reilffordd yn ystod y cyfnod adeiladu, a bydd arwyddion priodol yn cael eu gosod.

Dywedodd y Cynghorydd Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae cyflwyno llwybr teithio llesol newydd yn ychwanegiad croesawgar i Gorwen a Chynwyd. Bydd y gwaith hwn nid yn unig yn gwella hygyrchedd y safle i ddefnyddwyr, ond hefyd yn cadw pwysigrwydd amgylcheddol ac ecolegol y llwybr. Roedd hyn yn sylfaenol yn ystod y broses ddylunio ac mae wedi arwain at ffafrio dulliau ecogyfeillgar, megis defnyddio adeiladu nad yw’n cloddio i gwblhau’r prosiect.

“Hoffwn ddiolch i’r Cynghorwyr Alan Hughes a Gwyneth Ellis, am eu cefnogaeth barhaus i’n galluogi i weithio ar y cyd â’r gymuned, i ddarparu prosiect a fydd o fudd i bawb yn y dyfodol agos.

“Rydym yn deall bod hwn yn llwybr poblogaidd, ac yn gwerthfawrogi amynedd ein trigolion yn ystod y cyfnod hwn.”