Mae’r datblygwyr ynni adnewyddadwy Coriolis Energy ac ESB yn gwahodd pobl leol i roi
adborth ar eu cynlluniau ar gyfer Fferm Wynt Foel Fach, a allai gyflenwi digon o drydan glân,
gwyrdd i gwrdd ag anghenion dros 55,000 o gartrefi cyffredin bob blwyddyn* – mwy na holl
aelwydydd Gwynedd.
Mae trigolion sy’n byw ger safle arfaethedig Foel Fach, tua 3.5 km i’r gogledd o’r Bala, yn cael
cyfle i ddysgu mwy am y cynnig mewn arddangosfeydd cyhoeddus lleol.
Mae’r cynnig yn cynnwys hyd at 11 tyrbin, a allai gyflenwi hyd at 79.2 MW, ac mae’n dod ar
adeg o fwy o ymwybyddiaeth o newid hinsawdd gyda thywydd mwy a mwy eithafol o ganlyniad
i gynhesu byd-eang o waith dyn.
Mae Llywodraeth newydd y DU wedi addo dyblu ynni gwynt ar y tir yn y DU ochr yn ochr â
chynnydd enfawr yn y defnydd o dechnolegau adnewyddadwy eraill, fel solar a gwynt ar y
môr. Rhagwelir y bydd y galw am drydan bron â threblu wrth i ni ddatgarboneiddio’r economi
a symud i ffwrdd o ddefnyddio tanwyddau ffosil niweidiol.
Dywedodd Clare Dance, Rheolwr Prosiect Fferm Wynt Foel Fach, “Megis dechrau mae ein
cynlluniau, felly mae hwn yn amser gwych i’r gymuned rannu eu barn â ni. Rydym yn awyddus
i glywed gan drigolion ac rydym wedi ymrwymo i ystyried adborth lle bynnag y bo modd.
Rydym yn cynnig Cronfa Budd Cymunedol arloesol o £8,000 fesul MW ac yn edrych ymlaen
at glywed syniadau am y ffordd orau o ddefnyddio hon er budd yr ardal leol. Rydym hefyd yn
falch o weithio gyda Ripple Energy ar gynlluniau ar gyfer y cynnig cyffrous cyntaf o’i fath hwn
am gydberchnogaeth, y gobeithiwn allu darparu mwy o wybodaeth amdano dros y misoedd
nesaf.
“Gallai Fferm Wynt Foel Fach wneud cyfraniad sylweddol tuag at dargedau Llywodraeth
Cymru i gyrraedd yr hyn sy’n cyfateb i 100% o ddefnydd trydan blynyddol Cymru o ynni
adnewyddadwy erbyn 2035, yn ogystal â thargedau ar gyfer 1.5GW o gydberchnogaeth
gymunedol.”
Mae Coriolis Energy ac ESB yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol ar Fferm Wynt
arfaethedig Foel Fach rhwng 16 Medi a 14 Hydref 2024.
Mae’r arddangosfeydd cyhoeddus yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:
• 3 – 7pm, Dydd Gwener 27 Medi 2024, Neuadd Mynach, Cwmtirmynach, Y Bala LL23
7EB
• 10am – 2pm, Dydd Sadwrn 28 Medi 2024, Canolfan Bro Tegid, 32 Stryd Fawr, Y Bala
LL23 7AG
Mae disgwyl i ymgynghoriad cyn ymgeisio ar Fferm Wynt Foel Fach gael ei gynnal yng
nghanol 2025.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y prosiect www.foelfach.cymru