Corwen yn awyddus i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i’r dref yn 2029

Ymateb yr ardal

gan Lowri Rees Roberts
Urdd_National_Eisteddfod_Bala_1954

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Y Bala 1954

Mae aelodau o ardal Corwen yn awyddus i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i’r dref yn 2029. Yn ystod cyfarfod a gynhaliwyd yn y Neuadd Goffa wythnos diwethaf, gofynnodd arweinydd y pwyllgor Dafydd Morris a fyddai gan yr ardal ddiddordeb mewn gwahodd yr Eisteddfod i Gorwen a’r Edeyrnion mewn pum mlynedd. Y tro diwethaf i’r ŵyl ymweld â’r dref oedd 1919 a’r adeg honno fe gafodd ei galw yn Eisteddfod Heddwch gan iddi gael ei chynnal yn syth wedi diwedd Y Rhyfel Mawr. Yn ôl yr hanes fe berfformiodd Nansi Richards yn ei choban nos am iddi gysgu’n hwyr a cheisio brysio o Westy’r Owain Glyndŵr i’r cerrig orsedd. David Rhys Cledlyn Davies oedd enillydd y gadair, ysgolfeistr a hanesydd a ysgrifennodd awdl ar y testun Y Proffwyd. Cafodd y gadair ei gyfrannu gan Lady Robertson o Pale Hall a chafodd ei dylunio gan John Kelt Edwards a’i greu gan ei gefnder Elias Davies o Flaenau Ffestiniog. Cafodd y pafiliwn yng Nghorwen ei adeiladu yn arbennig ar gyfer y digwyddiad a chynhaliwyd rhwng y 4ydd a’r 8fed o Awst. Dywedodd Gwion Lynch yn y pwyllgor ei fod yn ‘ddyhead ac yn ddymuniad’ gweld yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael dychwelyd i Gorwen, a chytunwyd y byddai’n hwb i ddiwylliant yr ardal ac yn gymorth i danio’r gymuned Gymraeg sydd yn bodoli yn yr ardal yn barod. Er i Swyddfa’r Cyfnod/ Corwen Times holi nid oedd posib cael gwybod a ni chafwyd cadarnhad gan swyddfa’r Eisteddfod Genedlaethol mai i Sir Ddinbych fydd yr Eisteddfod yn dod yn 2029. Ond roedd y pwyllgor yn gytûn nos Iau ddiwethaf ei bod yn gefnogol i’r achos o ddenu un o wyliau mwyaf Ewrop i Gorwen ac Edeyrnion ac er y bydd gwaith caled iawn o flaen y pwyllgor, roedd yna frwdfrydedd. Dywedodd Dafydd Morris ei bod yn gynnar ar y funud ond ei fod yn gobeithio bydd diddordeb lleol i gael cyflwyno cais ffurfiol ac yna fydd angen cyfarfod cyhoeddus i weld faint o bobl sydd yn barod i gefnogi a chasglu arian.