Buddugoliaeth i’r Bala

Merched Y Bala 39-19 Merched Abergele

gan Lowri Rees Roberts

Roedd merched Y Bala ar dân brynhawn ddydd Sul diwethaf, 6 cais a 4 trosiad i’r tîm o’r Bala mewn gêm gystadleuol iawn yn erbyn Abergele. Er gwaethaf y glaw mawr roedd merched y Bala yn meistroli’r gêm yn y chwarter cyntaf gyda symudiadau chwim a dwylo da ac er bod ambell i gamgymeriad ar ran y merched mewn crysau glas roedden nhw i weld yn gyfforddus ar y cae ym Maes y Gwyniad a phob un ohonynt yn awyddus iawn i gael buddugoliaeth arall yn dilyn ennill Wrecsam penwythnos diwethaf o 79-5. Gyda’r bel yn wlyb yn yr ail hanner gwelwyd ambell i gamgymeriad a merched Abergele yn manteisio a’r hyn, gan ddangos eu doniau hwy gan sgorio ambell i gais, ond yn bendant roedd ’na fwy o reolaeth ar dîm y Gwyniaid a chafwyd rhediadau gwych gan Kate Davies, Siwan, Sara Jones a Mali Puw gan sicrhau ceisiadau i’r tîm gartref ac i goroni’r cyfan mi wnaeth Rhif 12 Kate Davies llwyddo gyda’r cicio hefyd i sicrhau 4 trosiad llwyddiannus i’r Bala. Daeth siom i dîm Y Bala pan aeth Sara Jones Talybont i lawr mewn tacl a chafodd ei arwain oddi ar y cae gan gario ei hysgwydd. Brysia wella Sar a gobeithio dy weld yn nôl ar y cae yn fuan. Roedd yna nifer iawn o wylwyr ac oherwydd y glaw daeth nifer dan do i’r clwb i gael paned. Cofiwch ymuno a ni dydd Sul nesaf pan fydd merched Y Bala yn wynebu Llanidloes adref ym Maes y Gwyniaid am 2.30yp

Dweud eich dweud