Dod i adnabod Daf Morris, Rheolwr dros dro’r Owain Glyndwr

Holi Daf Morris

gan Lowri Rees Roberts
Dafydd-Morris

1. Gyda noson Cleif Harpwood wedi bod yn llwyddiant wythnos diwethaf – oes gyda chi gynlluniau ar gyfer digwyddiadau eraill?

Oes yn sicr, ac roedd y noson yn un arbennig gyda’r stafell yn llawn dop. Da ni di trefnu OGtoberfest ar y 26ain o Hydref lle bydd band lleol efo aelod hollbwysig o’n pwyllgor yn chware’r gitâr bas iddyn nhw. Mae tocynnau yn £10 ac ar gael ar Skiddle Tickets: OGtoberfest Owain Glyndŵr Hotel, Corwen, LL21 0DL Corwen Sat 26 October 2024 (skiddle.com). Mae’r pwyllgor adloniant wedi cyfarfod Nos Fawrth diwethaf ac yn brysur gweithio ar raglen am y flwyddyn sydd o’n blaenau.

2. Beth fydd dy waith newydd fel Rheolwr yn ei olygu?

Llawer iawn o waith i gychwyn! Mae’n rôl enfawr sydd yn cwmpasu pethau fel bod yn gyfrifol am gyllid yr OG, sicrhau ein bod yn dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch, Trefnu llawer o’r gwaith sydd i’w wneud yma a sicrhau ein bod ddim yn rhedeg allan o gwrw!

3. Beth oedd dy waith cyn hyn? Athro Addysg Gorfforol a phennaeth cynorthwyol yn Ysgol Dinas Bran, Llangollen am 31 mlynedd, ac wedi cymryd ymddeoliad cynnar blwyddyn ddiwethaf i arafu lawr a gwneud gwaith llanw. Doedd hyn ddim yn fy nghynllun!

4. Be wyt ti’n fwynhau ei wneud yn dy amser hamdden? Mae’r mab hynaf , Osian a fi efo tocyn tymor yn Wrecsam a da ni wrth ein boddau cael fod ar y siwrne anhygoel ma’. Mynd a Macsen y ci am dro o gwmpas yr ardal, a mynd i ffwrdd yn ein “motorhome”?? Efo Pam fy ngwraig.

5. Pam fasa chdi’n licio gweld yr Eisteddfod yn dod i Gorwen? Oherwydd y cysylltiadau hanesyddol – Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol agored gyntaf ei ddal yn yr OG yn ôl ym 1789, Y Genedlaethol ym 1919 a’r Eisteddfod yr Urdd gyntaf ym1929 yma yng Nghorwen felly ma’ na rhywbeth arbennig am y rhif 9! Hefyd da ni’n teimlo fod hyn yn gyfle arbennig i adfywio’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn yr ardal a rhoi Corwen yn ôl ar y map yn go iawn. 6. Mae Corwen yn datblygu – beth fydde ti yn fwynhau ei weld yn y dref? Bod y dref yn dal ymlaen i adfywio a’i weld yn dod yn dref brysur gyda bwrlwm unwaith eto ac yn dod yn ganolfan i ddigwyddiadau yn yr ardal gyda’r OG yn cymryd rhan ganolog yn hyn.

Dweud eich dweud