Cyfle olaf i hysbysebu

Dyddiadur amaeth ar y ffordd unwaith eto eleni

gan Lowri Rees Roberts

Mae dyddiadur a luniwyd wyth mlynedd yn ôl gan grŵp o ferched cefn gwlad yn cael ei weld yn flynyddol mewn ffermdai ledled Cymru.
Mae Dyddiadur Amaeth 2025 yn targedu gwerthu 2,000 o ddyddiaduron – ychydig yn fwy na’i rediad cyhoeddi gwreiddiol yn 2014.
Yn costio £8.99 mae’r dyddiadur A4 yn cynnwys cysylltiadau gwledig defnyddiol, tudalennau ar gyfer data busnes ac adrannau ar gyfer storio cofnodion fferm. Lansiwyd y fenter dyddiadur dwyieithog gan chwe ffrind o ardal Y Bala.
Yr wythnos hon mae aelodau’r grŵp yn edrych ar gyhoeddi’r dyddiadur wythnos nesaf ar gyfer y flwyddyn 2025 ac felly yn targedu cwmnïau i hysbysebu yn y dyddiadur funud olaf. Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â ni heddiw ar 07880728273

Dweud eich dweud