Gwyl y Gogs yn llwyddiant

Gwyl newydd Y Bala yn ddigwyddiad arbennig

gan Lowri Rees Roberts

Mae trefnwyr Gŵyl y Gogs, yr ŵyl a gynhaliwyd yn Y Bala dros y penwythnos yn paratoi ar gyfer yr ŵyl y flwyddyn nesa. Yn dilyn gŵyl lwyddiannus iawn yn y dref, dywedodd un o drefnwyr yr Ŵyl Pwyll ap Llŷr Edwards bod cynlluniau ar y gweill i gynnal Gŵyl y Gogs unwaith eto flwyddyn nesaf ar benwythnos Awst 29-30 2025. “Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal gŵyl arall y flwyddyn nesaf. Roedd yr ŵyl yma yn llwyddiannus iawn, roedd y tywydd ar ei’n hochor ni diolch byth! a’r bandiau i gyd wedi perfformio’n arbennig. Roedd Pwyll yn ddiolchgar iawn i nifer o wirfoddolwyr oedd wedi cynorthwyo i sicrhau bod yr ŵyl yn llwyddiant “Diolch mawr i’r gwirfoddolwyr i gyd sydd wedi cynorthwyo ni i sicrhau bod pob dim wedi mynd yn iawn. “A hefyd mae’n rhaid i ni ddiolch i deulu Talybont am y cae ble cafodd yr ŵyl ei chynnal. Gan fod hi’r flwyddyn gynta’roedd yn anodd iawn gwybod sut oedd pethau am fynd ond cafwyd penwythnos arbennig “A diolch i bawb ddaeth i gefnogi ni a mwynhau Gŵyl Y Gogs “A gawni roi diolch arbennig i un o’r trefnwyr – Rhian Angharad Griffiths – hebddi hi, ni fyddai’r ŵyl wedi n bosib.