Carbage Run yn teithio drwy ein hardal ni

Ceir o bob lliw a llun yma yn Y Bala

gan Lowri Rees Roberts

Wythnos diwethaf ymwelodd y Carbage Run â ardal Y Bala a Chorwen ar daith arbennig oedd yn digwydd rhwng Awst 25 a 29. Mae’r Carbage Run 2024 yn daith ffordd 5 diwrnod drwy rannau o Gymru a Lloegr mewn hen gar sydd werth 1,000 ewro neu lai. I fod yn rhan o’r gystadleuaeth arbennig yma rhaid i’r car hefyd fod o leiaf 20 mlwydd oed ac roedd rhaid iddo fod yn lliwgar a fyddai’n siwr o ddenu sylw pobl yr ardaloedd. Roedd llawer ohonom yn dyst i’r daith gan bod y ceir lliwgar a swnllyd yn mynd drwy trefi Y Bala a Chorwen gan ganu corn o bob math. Mae cryn siarad wedi bod yn yr ardal am y ceir oedd yn teithio drwy’r dref a nifer yn holi beth oedd y daith arbennig yma felly dyma Y Cyfnod/ Corwen Times yn myn ati i holi’r teithwyr. Lansiwyd Carbage Run am y tro cyntaf yn 2008 yn yr Iseldiroedd, a chynhaliwyd y rhediad cyntaf yn ystod haf 2009. Dywedodd un o’r trefnwyr iddynt ddwyn y syniad a chreu enw eu hunain. Mae’r enw Carbage sydd wedi ei weld wedi printio ar geir o amgylch ein hardaloedd yn gyfuniad o Gar a Sbwriel. “Ar y daith gyntaf honno roedd 64 o geir ar y llinell gychwyn. Erbyn heddiw mae rhai o’n digwyddiadau yn cynnwys dros 1,000 o geir. Mae Carbage Run yn boblogaidd iawn yn Ewrop, ac anodd iawn yw cael bod yn rhan o’r daith gan bod yna rhestr aros go faith i fwynhau yn yr hwyl.” “Ar ôl ychydig flynyddoedd o deithiau ffordd yn ystod yr haf, fe wnaethom ychwanegu taith y gaeaf. Pan werthwyd pob tocyn ar ei gyfer fe lansiwyd ein hantur fwyaf heriol: y Carbage run Moped Edition (uch. 49cc). Ar ôl i bob lle werthu allan, fe wnaethom ehangu unwaith eto gan deithio i Sgandinafia. Pan werthwyd pob safle fe benderfynon ni fywiogi bywydau’r Almaenwyr trwy ddod â Carbage Run iddyn nhw. “Mae ein cwmni’n dal i dyfu’n gyflym iawn a chyn bo hir bydd gan fwy o wledydd yn Ewrop eu rhediad Carbage eu hunain. “Trodd yr hyn a ddechreuodd fel hobi yn gwmni “difrifol” sy’n trefnu pob math o ddigwyddiadau sydd yn gysylltiedig â moduron o bob math ac wrth gwrs teithio.” “Eleni mi rydym wedi dod yn ôl i’r Deyrnas Unedig! Cafwyd Carbage Run yma yn 2015 ac felly mae’n amser gwneud hynny eto ond bydd y daith drwy Gymru a Lloegr yn gwbl newydd.” Yr her yw mynd ar daith 5 diwrnod anhygoel o tua 2,000 cilomedr mewn hen gar. Nid yw’r ras Carbage yn ymwneud â chyflymder a/neu amser, ond mae’n ymwneud â chreadigrwydd, gwallgofrwydd, antur a hwyl! Nid yw’n ymwneud â bod y cyntaf i gyrraedd, ond wrth gwrs mae elfen o gystadleuaeth, bob dydd bydd pob un o’r ceir yn cael tasgau i gasglu pwyntiau, a’r tîm sydd â’r mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd yr wythnos fydd yn ennill. “Mae’r tasgau yn eich rhoi mewn sefyllfaoedd rhyfedd y byddwch chi’n siarad amdanyn nhw am amser hir. Wrth gwrs, mae pob noson yn hwyl ac roedd llawer o hwyl gyda’ch cyd-yrrwyr, gyda hen gar, a oedd yn debygol iawn o dorri i lawr ar y ffordd. Yn sicr bydd trigolion trefi Y Bala a Chorwen a nifer o bentrefi lleol yn siarad am y digwyddiad yma am hir iawn!

Dweud eich dweud