Dysgu Cymraeg
“Dw i ddim yn angel, ond dw i’n siarad yr iaith y nefoedd”. Daeth y frawddeg hon o lyfr Cymraeg mi ddarllenes i rai blynyddoedd yn ôl pan dechreues i ddysgu siarad Cymraeg. Mae’n frawddeg hyfryd iawn ac wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi ar fy nhaith ddysgu. Bydd yn aros efo fi am byth.
Alan Whitehead dw i. Mi ges fy ngeni a fy magu ym Manceinion ond bu i mi fyw yng Nghaer efo fy ngwraig, Sally, a’r teulu am 40 mlynedd cyn symud i’r Bala pan mi wnes I ymddeol yn 2014. Mae’r Bala yn ardal cryf Gymraeg ei hiaith ac roedd yn bwysig i mi ddysgu siarad Cymraeg er mwyn bod yn rhan o’r gymuned yma – os dach chi’n byw yng Nghymru, dylech chi ddysgu siarad Cymraeg!
Mi ddechreues i ddosbarthiadau efo Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin yn 2016. Ar y dechrau, roedd yn her go iawn, yn enwedig efo’r treigladau (ooh…hunllef!). Ond, wrth i mi dyfu mewn hyder, wnes i ddechrau defnyddio fy Nghymraeg y tu allan i’r dosbarth. Mae fy nghymdogion yn help mawr. Maen nhw wastad yn fy annog i siarad Cymraeg a dw i’n mwynhau ein sgyrsiau. Roedd defnyddio fy Nghymraeg yn y dref ychydig yn wahanol yn gyntaf. Os doeddech chi ddim yn adnabyddus, yna roedd Saesneg yn cael ei siarad yn awtomatig. Roedd rhaid i mi siarad yn gyntaf a dweud fy mod i’n dysgu Cymraeg. Doedd dim ots os ôn i’n gwneud camgymeriadau neu yn gorfod defnyddio gair saesneg, mae’n un o’r ffyrdd dach chi’n dysgu.
Y dyddiau hyn, dw i’n medru siarad Cymraeg ar lefel uchel ac fel arfer yn medru cynnal fy hun mewn sgwrs. Dw i’n gwneud llawer o bethau sy’n helpu i wella fy Nghymraeg: Dw i’n darllen lyfrau, papurau bro a Lingo Newydd (cylchgrawn i ddysgwyr Cymraeg); Dw i’n gwrando ar BBC Radio Cymru ac yn gwylio S4C; Dw i’n mynd i ddigwyddiadau sy’ wedi’u trefnu ar gyfer dysgwyr e.e. panad a sgwrs, teithiau tywys, ysgolion haf ac ati; Mae gen i ddwy wyres sy’n mynd i ysgol Capel Garmon ac yn siarad Cymraeg efo fi; Dw i’n gwirfoddoli efo’r Timau Brechiad Covid o gwmpas Gwynedd; Dw i’n goruchwylio yn ystod arholiadau yn yr ysgol uwchradd; a dw i’n gweithio yn yr orsaf bleidleisio pan fydd etholiadau. Hefyd, dw i’n mwynhau gwylio’r Bala yn chwarae pêl-droed a dw i wrth fy modd cerdded yn y bryniau, cwrdd â phobl leol ac yn siarad Cymraeg efo nhw a dysgu am hanes lleol.
Y peth gorau wnes i erioed oedd ymuno â Chor Meibion Bro Glyndwr. Dw i ddim yn ganwr wych ond pan dan ni’n canu efo’n gilydd, mae’r sain yn ffantastig a dw i wastad yn synnu pa mor dda mae’r côr yn cael derbyniad lle bynnag dan ni’n mynd. Efo arweiniad gwych gan Ann Atkinson, y caneuon Cymraeg dan ni’n eu canu, y cyfeillgarwch a chellwair, i gyd yn gwneud ymarfer a pherfformio yn brofiad pleserus ac yn fy helpu i wella fy Nghymraeg. Dw i wedi cael profiadau gwych fel canu mewn stadiwm, theatr ac eglwysi cadeiriol yn ogystal â bod yn rhan o ffilm, teledu a theithio dramor. Mi ganes i efo côr arall yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst a oedd yn un o brofiadau mwyaf anhygoel ar fy nhaith Gymraeg. Dw i’n hoffi gwirfoddoli ar y Maes D, hefyd, ac wrth fy modd yn helpu pobl yno efo’r iaith. Pythefnos yn ôl mi wnes i ffilm byr efo Nest Williams a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a fydd hi’n cael ei defnyddio i helpu dysgwyr eraill ar wahanol lefelau.
Wrth gwrs, dw i’n dal yn dysgu. Dw i’n dal yn mynd i’r ddosbarthiadau. Mae fy ngrŵp i wedi bod efo’i gilydd ers sawl blwyddyn ac mae gynnon ni’r tiwtor gwych. Dan ni’n fel teulu ac yn siarad am bopeth dan haul. Dw i’n cymryd pob cyfle i siarad Cymraeg ond dw i ddim yn gwybod a fydda i byth yn hollol rhugl. Ond, un diwrnod, hoffwn i ddeud dw i’n ddwyieithog….ella!