Taith ARFOR – Sioe ‘Cymrix’ yn cyrraedd Y Bala!

Dewch draw i Theatr Derek Williams. ddydd Mercher 30ain o Hydref, 2024 am 2:30yp…

gan Alys Rees Jones
Sioe CYMRIX - Theatr Derek Williams

Mae sioe CYMRIX yn mynd ar daith ar draws ARFOR gyda chefnogaeth Llwyddo’n Lleol!

Ar y cyd gyda Chwmni Theatr Arad Goch mae Llwyddo’n Lleol wedi trefnu sioeau cymunedol ar gyfer teuluoedd siroedd ARFOR sef Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd a Môn.

Mae Taith ARFOR – Cymrix yn ddigwyddiad i’r teulu cyfan ac yn gyfle i bawb ddod ynghyd i wylio drama newydd, cyffrous gan y dramodydd Alun Saunders sydd yn ymdrin â hunaniaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg trwy lygaid tri pherson ifanc.  I ddilyn y perfformiad, bydd gweithdy hwyliog i bobl ifanc/plant o dan arweiniad Mali Elwy – lle bydd yna gyfle i’r plant serennu wrth gyfleu’r gorau o’u hardal leol!

Mi fydd gan brosiect Llwyddo’n Lleol stondin ar y diwrnod i rannu gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael o fewn ARFOR ac i ymgysylltu gyda thrigolion cymunedau’r ardal.

Felly, dewch draw i Theatr Derek Williams. ddydd Mercher 30ain o Hydref, 2024 am 2:30yp am sioe a gweithdy egnïol sy’n rhoi cyfle i’r plant ymfalchïo yn ei hardal leol.

Mae’r tocynnau yn RHAD AC AM DDIM ond mae angen archebu eich lle cyn gynted â phosib drwy gofrestru ar wefan Theatr Derek Williams. 

Welwn i chi yno!

*Yn addas ar gyfer plant 7+

Dweud eich dweud