Y Meibion yn Morio

Cyngerdd gan Feibion Jacob yn Llangwm

gan Sian Mererid Williams

Cafwyd cyngerdd cofiadwy iawn yng Nghorlan Ddiwylliant Llangwm, nos Wener, Hydref 11eg yng nghwmni’r artistiaid – Meibion Jacob a’u cyfeilydd Gwerfyl Williams o’r Bala.

Mae’r triawd talentog o Benllyn, sef Steffan Prys, Arfon Griffiths ac Arfon Williams yn hen gyfarwydd â llwyfannau lleol a chenedlaethol a’r tri hefyd, yn eu tro, wedi chwarae rhannau blaenllaw fel o aelodau o gast Cwmni Theatr Meirion/Maldwyn.

 hwythau’n enillwyr cenedlaethol (cawsant ei llwyddiant cyntaf fel triawd ym Mhrifwyl Dinbych 2013), roedd edrych ‘mlaen garw at wledd o berfformiadau a chafodd neb eu siomi. Cyflwynwyd arlwy amrywiol ganddynt – o gerdd dant i galypso, o emynau i’r clasuron Cymreig a chaneuon sioeau cerdd. Bydd ‘Sisial yn fy nghwsg’ – (Gabriel’s Obo) ac ‘Eloise’ ar yr alaw Morannedd yn aros yn hir yn y cof. Roedd sglein ar bob dim, y lleisiau meddal yn asio’n berffaith a’r cyfan yn ymddangos mor ddi-ymdrech. Nid rhyfedd i sawl un ar y diwedd ddweud y gallent fod wedi gwrando ar y cyfan eto – arwydd o noson werth chweil!

Dweud eich dweud