Tafarn yr Eagles

Diweddariad o’r Eagles

gan Huw Antur

Tua dechrau 2023 oedd hi pan aeth Tafarn yr Eagles ar werth yn Llanuwchllyn – tafarn sydd wedi bod yn bwysig ers blynyddoedd i’r pentre, gan ei bod yn cynnwys tŷ bwyta a siop yn ogystal â thafarn.

Mi ddaeth criw o’r pentre at ei gilydd i greu menter gymunedol, ac efo help 375 o drigolion a chyfeillion Llanuwchllyn, a grantiau SPF Cyngor Gwynedd a Grymuso Gwynedd, mi lwyddwyd i godi arian i brynu ac i uwchraddio’r adeilad.  Mi lwyddwyd hefyd i sicrhau tenantiaid, ac mae Zoe a Jonathan yn rhedeg y dafarn ers dechrau Rhagfyr 2023 – bron i flwyddyn yn ôl erbyn hyn.

Mae yna weithgareddau yn cael eu cynnal o dro i dro yn yr Eagles – dewch draw am sgwrs neu bryd o fwyd – mae croeso i bawb.

Dweud eich dweud