Siom unwaith eto i golffwyr y Bala

Disgyn wrth y glwyd ola’ oedd hanes golffwyr y Bala unwaith eto.

gan Geraint Thomas

Am y trydydd tro yn olynol llwyddodd tîm golff Clwb Golff y Bala i gyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Golff Gogledd Cymru, ond stori gyfarwydd oedd hi unwaith eto.

Am y trydydd tro yn olynol colli fu hanes y bechgyn yn y rownd derfynol. Os oes ’na hattric mewn golff – dyma hi!

Clwb Golff Gogledd Cymru yn Llandudno oedd maes y gad, ac er i’r tywydd ddal yn dda – roedd Ifan y glaw wedi cadw draw, ac roedd Morus y gwynt yn rhoi seibiant i’r hogiau – dwr oer a daflwyd dros y gobeithion.

Clwb Golff Porthllechog ger Amlwch oedd y gwrthwynebwyr, a’r sgôr terfynol oedd 5-2.

Yn ôl Huw John Roberts, Capten clwb Golff y Bala am eleni-

“Er ei bod hi wedi bod yn chwip o gystadleuaeth dda heddiw, mai’n rhaid dweud fod yr hogie’ yn teimlo ychydig o siom wrth ddod ‘nol o Landudno yn waglaw unwaith eto.

“Serch hynny, teg dweud ein bod ni i gyd yn teimlo balchder yn y gamp o gyrraedd y rownd derfynol unwaith eto.  Un peth sydd yn sicr, os gyrhaeddwn ni’r ffeinal eto – mi wnawn ni ein gorau i ddod a’r tlws adre’ i Benllyn.”

Roedd yr hogie hefyd am ddiolch i Rita am y crysau a archebwyd yn benodol ar gyfer y digwyddiad.

Cawn ni i gyd edrych ymlaen at y flwyddyn nesa ble bydd hogie’r Bala yn ceisio ymestyn un cam ymhellach, a dod a’r cwpan nol i’r Bala am y tro cyntaf!