gan
Nel Angharad Thomas
Ar nos Sadwrn yr 21ain o Fedi, cynnalwyd noson o fawl ag addoliad i bob oed yng nghanolfan Bro Tegid. Gan gael cyfle i weld Beibl Mari Jones ag i ddathlu 700 mlynedd i siarter Y Bala, ynghyd a Chymdeithas Y Beibl cangen Y Bala a Penllyn.
Braf oedd gweld y lle yn llawn, gan gael Eglwysi, Capeli a chanolfannau Cristnogol o’r Bala yn dewis adnod o’r Beibl ag emyn, i bawb gael ymuno mewn mawl. Roedd cyfle i weld Beibl Mari Jones, gan ddysgu am ei arwyddocâd, a phwysigrwydd y cyfnod hwn yn ei daith. Cafwyd paned a chacen gan roi cyfle i bawb gymysgu a chymdeithasu hefyd.
Lluniau gan Joseff Griffiths