Mewn noson yn Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan 2023 roedd Cleif Harpwood a Geraint Cynan yn perfformio gan gyfeirio at gyfnod Edward H Dafis a’r cyngherddau enwog yng Nghorwen yn y 70au. Gan bod y gymuned yn ceisio brynu’r gwesty aeth aelod o’r pwyllgor ato yn egluro’r bwriad a gofyn os byddai’r ddau yn fodlon teithio i Gorwen i gynnal yr un math o noson a defnyddio’r noson i roi hwb i’r ymgyrch ac yn ffodus iawn bu i’r ddau gytuno yn y fan a’r lle.
Dros flwyddyn yn ddiweddarach, roedd Cleif a Geraint yng Nghorwen nos Sadwrn Medi 14. Ddeuddydd cyn diwrnod Owain Glyndwr, a thridiau cyn i’r gymuned gwblhau’r pryniant o’r gwesty, roedd yn ddathliad arbennig. Gwerthwyd pob un o’r 100 tocyn, ac roedd awyrgylch wych ym mar uchaf yr OG, gyda’r gynulleidfa yn ymuno yn y canu. Fe berfformiodd Celif a Geraint am ddwy awr soled, oedd yn dipyn o orchwyl, yn enwedig ar ddiwedd wythnos pan gladdwyd cyfaill Cleif a chyd aelod o Edward H, Dewi Pws. Fe dalodd Cleif deyrnged i Dewi yn y gyngerdd, gan ganu nifer o’i ganeuon, neu ganeuon roeddynt wedi eu hawduro ar y cyd.
Roedd yn noson wefreiddiol ac emosiynol, a nawr fod y gwesty yn nwylo’r gymuned fe allwn edrych ymlaen at lawer o nosweithiau tebyg yn y dyfodol.