Daeth torf dda at ei gilydd ddoe i’r digwyddiad blynyddol i gofio Owain Glyndŵr yng Nghorwen.
Yn ôl yr arfer, gwasanaeth yng Nghapel Seion oedd yn cychwyn y gweithgareddau dan arweiniad Elwyn Ashford Jones a’r Parch. Lynette D Norman. Ond plant Ysgol Bro Dyfrdwy oedd y sêr, a nhw oedd yn gyfrifol am y rhan helaethaf o gynnwys y gwasanaeth.
Yn dilyn gorymdaith draw i’r cerflun enwog o Owain gydag aelodau o fand Cambria yn arwain, gosodwyd torch gan blant yr ysgol ar y garreg sylfaen.
Wrth gwrs, mae’r ddefod yma yn ddigwyddiad blynyddol yn y dyddiadur erbyn hyn, ac yn gyfle i nifer gofio yn ffurfiol gyfraniad Owain Glyndŵr i hanes Cymru. Mae hefyd yn un o’r digwyddiadau mwyaf gweledol wrth i draffig yr A5 arafu i weld y baneri a’r arwyddion gweledol o’n Cymreictod ni fel cenedl.
Beth amdani flwyddyn nesa? Ddowch chi draw i Gorwen i gofio Glyndŵr?