Agoriad arddangosfa Clyde Holmes

Oriel Cantref yn croesawu gwaith celf yr artist tirlun enwog.

gan Geraint Thomas

Heno agorwyd arddangosfa gan artist arbennig iawn yn Oriel Cantref – Clyde Holmes.

Efallai eich bod yn cofio Clyde a’i deulu yn byw yn ardal Penllyn- cartrefodd yr artist a’r bardd yn un o lecynnau mwyaf anghysbell yr ardal – yr unig fwthyn yng Nghwm Hesgyn.

Er i Clyde farw yn 2008, gadawodd etifeddiaeth gyfoethog o luniau a cherddi – nifer fawr wedi eu hysbrydoli gan fawndir corsiog Cwm Hesgyn a’r Migneint. Llyfrgell Genedlaethol Cymru ydi ceidwaid rhan helaeth o’r casgliad erbyn hyn, ac mae’r darnau sydd i’w gweld yn oriel Cantref ar fenthyg o’r llyfrgell.

Agorodd Gwynedd Jones (Maesywaun) a’i ferch Malka Holmes yr arddangosfa, ac roedd nifer fawr o deulu a ffrindiau Clyde wedi teithio o bell ac agos i fod yn bresennol.

Galwch heibio Cantref i weld yr arddangosfa – mae hi wir werth gweld y lluniau. Hefyd gallwch gael blas ar luniau Clyde trwy ymweld â www.clyde-holmes.com

Dweud eich dweud