Tren bach y llyn i gyrraedd y dref

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn rhoi caniatad i ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid

gan Geraint Thomas

Daeth croeso brwd gan fusnesau Stryd Fawr y Bala i’r newyddion fod trac rheilffordd enwog Llyn Tegid am gael ei ymestyn bron i drichwarter milltir i’r dref.

Fel rhan o’r cynllun bydd gorsaf newydd yn cael ei chodi heb bod ymhell o gefn Neuadd Buddug yn y dref.  Llynedd cafodd cais cynllunio am y cynllun gael ei wrthod gan yr awdurdod, ond wedi i’r cwmni sydd yn rhedeg y rheilffordd a Cyfoeth Naturiol Cymru addasu ychydig ar y cynllun, rhoddwyd sêl bendith ar y cwbl heddiw.

Er hyn, nid oes disgwyl i’r gwaith caib a rhaw gychwyn yn syth ar y cynllun.  Bydd angen gwario tua £5M i wireddu’r freuddwyd, ac er bod celc go dda wedi ei gasglu yn barod, mae’r rhan fwyaf o’r cyllid angen ei sicrhau.

Pan gaiff y cynllun ei wireddu, y gobaith ydi y bydd llawer mwy o’r teithwyr sydd yn defnyddio’r rheilffordd yn taro heibio busnesau yn y dref. Ar hyn o bryd mae taith o hanner milltir dda yn wynebu’r ymwelwyr.

Roedd heddiw yn garreg filltir bwysig i gynllun sydd wedi bod yn freuddwyd i lawer ers degawdau, a’r gobaith ydi y bydd chwiban y trên a’r oglau mwg tan glo braf yn llenwi strydoedd y Bala yn fuan.

Dweud eich dweud