Diolch i’r nef fod bechgyn y Bala wedi arfer efo glaw.
Yn rownd gynderfynol cystadleuaeth i glybiau golff y gogledd yng Nghlwb Golff Porthmadog dros y Sul daeth llwyddiant eto i’w rhan. Mewn amodau fyddai’n gweddi i Noa a’i griw, llwyddodd hogie Penllyn i drechu bois Harlech o drwch blewyn.
Alla hi ddim bod lawer agosach. Er i Harlech arwain y frwydr 2-0 a 3-2, roedd y sgôr wedi i’r tîm o saith orffen eu rownd yn 3 1/2 i’r Bala a 3 1/12 i Harlech – cwbl gyfartal. Daeth y frwydr i lawr i un twll ychwanegol – y 19eg (neu’r twll cyntaf yn cael ei chwarae unwaith eto, wrth gwrs), Iestyn Dylan oedd y gŵr dewr a gamodd i’r adwy – a llwyddodd i gipio’r fuddugoliaeth yn y modd mwyaf dramatig.
Yn barod mae’r bechgyn wedi curo Clwb Golff Gogledd Cymru (Llandudno) yn y rownd gyntaf adre yn y Bala, a hefyd Glwb Golff Nefyn yn y rownd gogynderfynol eto adref yn y Bala cyn camu i’r rownd gynderfynol.
Clwb golff Gogledd Cymru yn Llandudno fydd maes y gad ar gyfer brwydr fawr y ffeinal, ar hyn o bryd tydi’r rownd gynderfynol arall rhwng Clwb Golff Porthllechog a Chlwb Golff Henllys (ill dau o Sir Fôn), heb gael ei chwarae i ganfod gwrthwynebwyr y Bala.
Hwn fydd y trydydd tro yn olynol i’r Bala chwarae yn y ffeinal. Gobeithio y gall hogie’r Bala fynd un cam ymhellach eleni a dychwelyd y tlws ‘nol i Benllyn.