gan
DELYTH THOMAS
Dydd Sadwrn 24.08.2024 gweddnewidwyd y neuadd bentref a braf oedd gweld y neuadd yn llawn o amrywiol gynnyrch lleol. Agorwyd y sioe yn swyddogol gan Julia Evans a chafwyd llwyddiant ysgubol ar gyfer dathlu’r 70!
Hoffai’r pwyllgor ddiolch I bawb a fu ynghlwm á’r trefniadau ac am helpu ar y diwrnod sydd yn galluogi parhad i’r sioe arbennig yma. Rhaid hefyd diolch I’r holl gystadleuwyr a’r beirniaid am eu cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.
I ddathlu’r garreg filltir cafwyd gweithgareddau I’r plant a barbeciw gyda adloniant o safon gan Ellie Bedwell gyda’r nos.