Sioe Sir yn Rhug

Sir Feirionydd ar ei orau yn y sioe

gan Geraint Thomas

Tro Ystad y Rhug ydi cynnal Sioe Sir Feirionydd eleni, gyda gwirfoddolwyr o Benllyn yn arwain y gad wrth drefnu.

Teg dweud fod dyddiau da’r sioeau sir yn ôl wedi blynyddoedd llwm y pandemic.

Mae’r stondinau yn llawn a’r cystadlu yn frwd – galwch draw, mae’r haul ar ei ffordd!

Dweud eich dweud