gan
Geraint Thomas
Mewn gêm llawn cyffro yn y Bala colli oedd hanes y tîm lleol yn erbyn Leigh o Swydd Gaerhirfryn.
Gêm i gynhesu’r coesau oedd hon, a chyfle i chwaraewyr ar gyrion y garfan gael cyfle i ddangos eu doniau i’r tîm hyfforddi.
Chwaraewyd y gêm mewn pedwar chwarter yn hytrach na’r ddau hanner arferol, er mwyn rhoi cyfle i newid ychydig ar y tîm, ac i ambell i hen fegin gael ei gwynt yn ôl.
Er i Bala ddal ar sodlau’r bois o dros y ffîn, colli oedd eu hanes yn y diwedd o 45-26.
Bydd y clwb yn edrych ymlaen at’r tymor newydd yn eiddgar, ac yn gobeithio am dymor llwyddiannus arall.