Beth yn union sydd yn digwydd yn Llyn Celyn?

Mae peiriannau trwm a cryn brysurdeb yn mynd rhagddo – ond beth sydd yn digwydd?

gan Geraint Thomas

Mae dros flwyddyn bellach ers i’r llwybr ar draws argae Celyn gau i’r cyhoedd, ac i’r gwaith gychwyn tu ôl i’r ffensys mawr haearn.

Yn ôl Dwr Cymru mae’r gwaith yn rhan o brosiect. Bydd y prosiect yn gweld gorlifan arloesol newydd yn cael ei greu.

“Bydd y gorlifan newydd yn cael ei sianelu o dan gopa’r argae a bydd yn defnyddio graddiant naturiol y dyffryn i gyfeirio’r llif yn ôl i Afon Tryweryn islaw. Os bydd dyfroedd Llyn Celyn yn cyrraedd lefel eithriadol o uchel y gorlifan ategol, bydd dŵr yn llifo dros gored concrit newydd y gorlifan sydd yn cael ei hadeiladu i storfa ddŵr yn uwch i fyny. Bydd y dŵr yn cael ei gadw yn y gronfa ddŵr gan ddefnyddio system o byrth hydrolig. Mewn digwyddiadau o lefelau eithriadol o uchel o ddŵr, pan fo lefel y gronfa dipyn yn uwch na lefel y gorlifan presennol (tebygolrwydd o 0.01% mewn unrhyw flwyddyn, neu unwaith pob 10,000 o flynyddoedd), byddai pyrth y gorlifan newydd yn agor.”

Wrth gwrs, i’r rhai sydd yn gyfarwydd â’r llyn, mae ’na orlifan arall ar ochor bellaf y llyn o’r ffordd fawr- strwythur sydd wedi bod yno ers codi’r gronfa yn y 1960au, ond prin iawn ydi’r enghreifftiau o’r dŵr yn dod dros enau’r twmffat mawr concrid hwnnw.

Mae’r gwaith o godi’r orlifan newydd wedi gweld cloddio yn ddwfn i berfedd y graig islaw’r ffordd…er nad efallai mai gweld ydi’r gair cywir – clywed y gwaith fyddai’r disgrifiad gorau.  Mae’r cnocio cyson byddarol am fisoedd lawer wedi tarfu ar heddwch y cwm ers tro, ac wedi codi gwrychyn ambell un sydd yn byw gerllaw.

Yn ôl Dwr Cymru, does dim bwriad codi lefel argae Llyn Celyn o gwbl fel rhan o’r prosiect. Er bod y gwaith wedi parhau am dros ddeunaw mis erbyn hyn nid oes disgwyl iddo ddod i ben tan ddiwedd 2025.