Anrhydeddu Heulen

Urddo Heulen o’r Parc i’r Orsedd

gan Geraint Thomas
4eb3dca8-5595-45bf-a717

Am yr ail Eisteddfod Genedlaethol o’r bron roedd Heulen Cynfal yn rhoi Penllyn ar y map.

Wedi ysgubo pawb o’r neilltu ac ennill y Rhuban Glas ym Moduan y llynedd urddwyd Heulen o’r Parc i’r wisg wen ym Mhontypridd.

Ond nid dyna ddiwedd y stori. Yn nefod y cadeirio b’nawn Gwener, Heulen oedd yn canu can y cadeirio hefyd. Braint ac anrhydedd iddi, ond braint i ni drigolion Penllyn cael ei galw’n un ohonom ni.