Y sgets orau yng Nghymru!

Tri doniol o’r Parc a Maesywaen yn ennill yn y sioe fawr.

gan Geraint Thomas

Daeth tri o fechgyn Penllyn i’r brig yn Llanelwedd yn ddiweddar wrth gystadlu yn y gystadleuaeth sgets.

Dan hyfforddiant Rhian Dafydd bu’r tri – Lewys Jones, Gwion Aled ac Ynyr Dafydd – i’r brig.

Bydd galw mawr ar lwyfannau’r fro am eu talent, ac mae’r tri yn parhau a thraddodiad hir o berfformio a diddanu yn ardal y Parc.

Gwych iawn hogie!