Mae dau ddatblygwr am godi tyrbinau gwynt enfawr yn ardal Penllyn.
Bwriad RWE ydi codi hyd at 9 tyrbin enfawr hyd at 200m o uchder yn ardal Llandderfel. Byddai fferm wynt Mynydd Mynyllod yn cynhyrchu 59mW – allai ddiwallu anghenion 48,000 o dai.
Ond byddai maint y tyrbinau dros ddwywaith uchder y tyrbinau sydd yn sefyll ar hyn o bryd uwchlaw fferm Braich Ddu gerllaw.
Ar hyn o bryd mae cwmni RWE yn ymgynghori ar y datblygiad ac mae arddangosfa o’r cynlluniau ar daith ar hyn o bryd a gallwch ddarllen mwy am y cynllun hwn yma
Hefyd yn yr arfaeth mae cynlluniau ar gyfer ail fferm wynt yn yr ardal. Bwriad cwmniau Coriolis Energy o Berkshire ac ESB Energy ydi codi tyrbinau gwynt ar Foel Fach rhwng Llanfor a Cwmtirmynach. Cwmni o Iwerddon ydi ESB Energy.
Mae’r cynnig yn cynnwys hyd at 11 tyrbin, a allai gynhyrchu hyd at 79.2MW o ynni adnewyddadwy. Bydd y cynllun hwn hyd yn oed yn fwy na chynllun Mynydd Mynyllod.
Er bod y datblygwyr wedi cyhoeddi eu cynlluniau cychwynnol maen nhw beth amser y tu ôl i RWE yn eu cynlluniau. Ni fydda nhw yn ymgynghori yn statudol tan 2025.
Gallwch ddarllen mwy am gynlluniau fferm wynt Foel Fach yma