Merched y Wawr yn Frongoch

Ymweliad â’r camp Rhyfel Byd 1af yn Frongoch.

gan Dilys Ellis Jones

Nos Iau, Mehefin 27ain, bu Merched y Wawr cangen y Bala am ymweliad â Chanolfan hanes y camp rhyfel yn Frongoch.

Cafwyd noson hynod ddiddorol yng nghwmni Alwyn Jones, sydd wedi  casglu’r holl arteffactau ar hanes at ei gilydd. Mae’n werth mynd draw i ddarllen am hanes y carcharorion o Iwerddon, a hanes y gwaith chwisgi. Diolch i caffi Manon wrth yr afon Tryweryn, am swper bendigedig i orffen.