Cantref – ‘cyfarfod yr artist’

Canolfan Treftadaeth y Plase 

gan Dilys Ellis Jones

Cafwyd prynhawn ‘cyfarfod yr artist’ sef Bethan M Hughes yn ddiweddar yng Nghanolfan y Plase. Bu Bethan yn trafod yr ysbrydoliaeth tu ôl i’w gwaith cywrain! Diolch i Faer y Bala, Dilys Evans ac i’r Cynghorydd Dilwyn Morgan am estyn croeso swyddogol iddi. Diolch hefyd i Gwyneth Jones am gyflwyno Bethan yn ystod y noson agoriadol.
Gwnaed elw o £107 tua at goffrau Cantref yn ystod y prynhawn. Diolch i bawb ddaeth draw.