Ymhlith artistiaid lu yng ngwyl newydd y Gwylliad roedd cyfraniad sylweddol gan artistiaid o ardal Y Bala a Llanuwchllun. Roedd Branwen Williams yn rhan o fand Cowbois Rhos Botwnnog a chwaraeodd set anhygoel o flaen torf dda. Roedd criw ifanc Mynadd hefyd yn rhan o’r lein-yp a oedd yn cynnwys Mei Gwynedd, MR (Marc Roberts), Eden ac Elin Fflur.
Rhan o fwriad cynnal yr wyl oedd cofio am ferch boblogaidd o’r ardal a fu farw y llynedd – Betsan Wyn Morris, ac roedd y llythrennau BWM, BWM, BWM i’w gweld ar lu o grysau ti er cof amdani.
Roedd yr wyl yn hynod lwyddiannus, ac roedd nifer o ardal Penllyn wedi croesi dros y ddwy Aran i fod yn bresennol.
Dywedodd Nel Thomas, sydd yn chwarae gitar fas i Mynadd-
“Mi oedd hi’n brofiad gwych cael rhannu llwyfan gyda gymaint o artistiad profiadol ac o flaen cynulleidfa dda.
“Mi oedd arwyddocad y diwrnod yn arbennig hefyd, ac roedd hi’n hyfryd cael bod yma yn y Llew Coch gyda teulu a ffrindiau Betsan yn rhan o’r dathliad o’i bywyd.”
Bydd Cowbois Rhos Botwnnog a Mynadd yn perfformio ar lwyfannau ar hyd Cymru dros y misoedd nesa’, cadwch olwg yn y calendr am fwy o fanylion am y gigs a’r gwyliau i gyd.