gan
DELYTH THOMAS
Cafwyd noson arbennig yn goleuo’r goeden gyda llawer o’r gymuned wedi dod ynghyd ar gyfer yr achlysur. Cyflwynydd y noson oedd Gwyneth Ellis, a braf oedd clywed disgyblion Ysgol Bro Dyfrdwy yn canu carolau yn swynol iawn cyn I John Evans gyflawni’r orchwyl o droi’r goleuadau ymlaen.
Diweddwyd gyda mins pei, gwin cynnes a siocled poeth I’r plant yn y Llew Glas. O fewn y dafarn roedd lluniau buddugol y disgyblion a diolch i John Evans am eu beirniadu.
Hoffai’r Gymdeithas ddiolch o waelod calon i bawb fu ynghlwm á’r trefniadau ond yn arbennig i John a Stephen Tudor am ddarparu a gosod coeden arbennig iawn ac i’r Llew Glas am eu haelioni yn darparu’r lluniaeth.