EP Newydd Rhi JorJ
Bydd EP Rhian sef ‘Amser ‘ yn cael ei gyhoeddi yn fuan ac fe fydd ar gael ar bob leoliad digidol. Bydd hyn yn cael ei ddilyn maes o law gyda albwm a CD o’r enw ‘Ysgafn’.
Bu Rhian yn wael iawn am gyfnod yn 2023 gan dderbyn diagnosis o’r clefyd prin Addison. Bu iddi adel ei gyrfa fel athrawes a throi at gyfansoddi wrth wella a dechrau pennod newydd yn ei bywyd.
Mae tair can ar yr EP sef ‘Amser’,’Disgleiria Di’ a ‘Llyn Tegid’.
Rhian oedd prif leisydd band ‘UST’ o’r 90’au a hefyd y band ‘Amledd’ yn fwy diweddar. Ei gwr Billy Thompson sydd yn cynhyrchu ei gwaith ac mae ef a’u mab Sam Thompson yn perfformio ar yr EP . Mae Billy wrth gwrs wedi ei weld o amgylch y wlad yn perfformio ar ei ffidl yn wefreiddiol gyda’i fand Billy Thompson Gypsy Style.
Edrychwn ymlaen i glywed yr EP ‘Amser’.
Am fwy o wybodaeth ac ymholiadau perfformio:
07460425040/billythompson.co.uk