Merched Godre’r Berwyn yn bencampwyr Cymru!

Tim Dan 18 yn rhoi Penllyn ar y map

gan Geraint Thomas

Toes ’na’m dwywaith amdani – mae merched ardal Penllyn yn arwain y gad ar lwyfan y bêl hirgron. Rhwng y Gwylliaid a’r clwb rygbi mae llwyddiannau lu wedi dod i’w rhan ers tro bellach.

Tro tîm merched dan 18 oedd cipio’r penawdau y tro hwn, ac nid am y tro cyntaf wrth gwrs. Rhaid oedd teithio i lawr i Lanymddyfri (tybed pam Llanymddyfri, gyda ffeinal y bechgyn yn cael ei chwarae yn Stadiwm y Principality???!!!), a buddugoliaeth a ddaeth serch hynny.

Ysgol Uwchradd Hwlffordd oedd y gwrthwynebwyr, ac roedd maint y fuddugoliaeth yn swmpus – 50-29 i’r merched o Benllyn, gan hawlio Tlws Pencampwyr Ysgolion Cymru am flwyddyn arall.