Dwi’n siwr eich bod erbyn hyn wedi sylweddoli bod mwy o liw o amgylch archfarchnad Co-op yn y dref, a mae llawer ohonoch wedi cael cyfarfod ac wedi cael sgwrs gyda’r artist Aliss Curtis a fu’n brysur wythnos diwethaf yn creu’r murlun yn y dref.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae canol trefi yng Ngwynedd yn wynebu ystod o heriau, gan gynnwys dirywiad yn edrychiad safleoedd o fewn canol trefi, sydd yn cyfrannu yn sylweddol tuag at ddirywiad stryd fawr a chanol trefi trwy gydol y wlad. Er mwyn ymateb i’r heriau sy’n wynebu canol trefi Gwynedd, mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn llwyddiannus mewn sicrhau cyllideb o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae i’r cynllun nifer o brosiectau fydd yn cyfrannu tuag at adfywio canol y dref, gan gynnwys cynllun i ddatblygu cynlluniau celf cyhoeddus parhaol yng nghanol trefi Gwynedd. Fel rhan o raglen Gosod Sylfaen ar gyfer Buddsoddiad, Balchder a Bwrlwm Canol Trefi Gwynedd, mae Cyngor Gwynedd wedi comisiynu yr artist Aliss Curtis i ddatblygu a gweithredu cynllun celf cyhoeddus ar ffurf Murlun ar ochr adeilad y Co-Op yn Bala. Fel rhan o baratoadau i greu y cynllun cymunedol, cafodd nifer o bobl leol y dref y cyfle i fod yn rhan o ddatblygu’r cynllun gorffenedig sydd wedi ei baentio ar y wal, i ddathlu ac adrodd hanes a diwylliant y dref.
Diolch i Aeron am y llun