Clod a diolch i Tony a Meg

Tony a Meg Parry yn derbyn clod yng ngwobrau Cymunedol Undeb Rygbi Cymru

gan Lowri Rees Roberts
Tony-Parry

Yn ddiweddar fe gynhaliwyd gwobrau “Diolch” Undeb Rygbi Cymru yn Ystafell y Llywydd yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.

Yn mis Chwefror eleni roedd cyfle i enwebu unigolion sy’n gwirfoddoli mewn rygbi cymunedol ac roedd tri o ardal y Bala wedi cyrraedd y rownd derfynol:- Lowri Blain am wobr hyfforddwr chwaraewyr iau y flwyddyn hefo Gwylliaid Meirionnydd,  Alwyn Roberts am ei waith swyddog diogelu Clwb Rygbi’r Bala a Tony Parry am wobr Cyflawniad Oes y Llywydd (President’s Lifetime Achievement Award).

Cafwyd noson arbennig yn dathlu gwirfoddolwyr o bob cwr o Gymru, gan glywed straeon ysbrydoledig am unigolion a chlybiau rygbi yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eu chwaraewyr a’u cefnogwyr yn eu hardaloedd lleol. Er na chafodd ru’n o’r tri wobr yn eu catgoriau, cafwyd diweddglo annisgwyl ac emosiynol iawn i’r seremoni.

Roedd y Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig yn cael ei chyflwyno yn ôl disgresiwn y Panel Annibynnol oedd wedi bod wrthi yn penodi’r enillwyr i gyd ar y noson, i unigolion oedd wedi gwneud cyfraniad oedd yn haeddu cydnabyddiaeth arbennig oherwydd yr effaith roedd eu gwirfoddoli wedi gael.

Doedd dim rownd derfynol ar gyfer y wobr yma gyda’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar y noson. Cafwyd araith arbennig am waith di flino’r enillwyr dros ddegawdau heb enwi’r clwb na’r enillwyr i gychwyn. Ond ar ôl sôn am dorri gwair, peintio’r llinellau a sicrhau estyniad i’r clwb rygbi ymysg llu o gyflawniadau eraill, roedd hi’n glir mae Tony a Meg Parry oedd enillwyr haeddiannol y wobr yma am eu gwaith di flino dros y blynyddoedd yn gwirfoddoli i Glwb Rygbi’r Bala.

Mae’r oll a gyflawnwyd gan Tony fel cadeirydd hefo cefnogaeth Meg dros y blynyddoedd yn rhagorol. Roedd y gefnogaeth gan bawb yn yr ystafell wrth iddynt dderbyn y wobr yn dangos fod ymroddiad Tony a Meg i Glwb Rygbi’r Bala wedi ysbrydoli a chyffwrdd calonnau pawb.

Mae seremoni flynyddol yma ‘Gwobrau Diolch’ yn Diolch i wirfoddolwyr o Fôn i Fynwy am eu hymroddiad a’u hamser i’w clybiau rygbi lleol. Eleni hoffai URC ddiolch i’n staff Cymunedol hefyd am helpu llunio’r rhestr fer ar gyfer ein Panel Annibynnol o Feirniaid. “Roedd hi’n waith caled dewis yr unigolion ddaeth i’r brig y tro yma gan fod safon yr enwebiadau mor deilwng a chryf.

Dylai pawb gafodd eu henwebu fod yn hynod o falch o’u hunain.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Geraint John: “Mae’r noson wobrwyo’n rhoi’r cyfle i ni ddathlu gwerth a chyfraniad ein gwirfoddolwyr ledled y wlad. Hebddyn nhw – ni fyddai’r gêm yn bodoli yng Nghymru ac ‘ry’n ni’n deall hynny’n iawn. “Dyma’n cyfle i ddweud ‘Diolch’ i arwyr ein gêm gymunedol.” Mae Undeb Rygbi Cymru wedi derbyn adborth hynod gadarnhaol am y noson wobrwyo yn Stadiwm Principality, fynychwyd gan dros 120 o bobl gafodd eu henwebu gan eu clybiau a’u cymunedau am eu cyfraniad unigryw.

“Roedd y chwaraewyr rhyngwladol Rhys Patchell, Adam Beard, Hannah Jones ac Alex Callender yn bresennol yn y digwyddiad – gyflwynwyd gan Scott Quinnell a Molly Stephens. Ar y noson ‘roedd dwy wobr am Gydnabyddiaeth Arbennig ac fe enillodd Tony a Meg Parry un o’r rhain.

Dywedodd Angharad Collins, Pennaeth Llefydd URC ar gyfer y Gêm Gymunedol: “Fe gefais y pleser o gyfarfod y cwpl arbennig yma’n fuan iawn wedi i mi ymuno gyda’r Undeb – a dywedwyd wrthyf bod Tony’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod gan y clwb yr adnoddau a’r tîm angenrheidiol i wasanaethu’r gymuned!

“Dros y blynyddoedd mae wedi bod yn gofalu am y cae, marcio’r maes a mynychu pob cyfarfod er mwyn gwella a chryfhau Clwb Rygbi’r Bala. “Hebddo ef – a chefnogaeth wych Meg – ni fyddai’r holl waith yma wedi bod yn bosib – er lles y gymuned leol.”

Bron i flwyddyn yn ôl – ar y 19eg o Fehefin 2023, ildiodd Tony Parry yr awennau fel Cadeirydd Clwb Rygbi’r Bala wedi 22 o flynyddoedd o wasanaeth yn y rôl honno. Ef oedd un o sylfaenwyr y clwb ac fe chwaraeodd yn eu gêm gyntaf erioed yn 1980.

Bu’n allweddol wrth oruchwylio estyniad sylweddol i adeilad y clwb yn 2017 olygodd bod y timau ieuenctid yn gallu mwynhau bwyd yn y clwb wedi iddynt ymarfer neu chwarae gemau. Mae nifer o nosweithiau codi arian wedi eu cynnal yn yr adeilad hefyd.

Yn ogystal – mae ail gae wedi ei ddatblygu yn y clwb, mae’r ystafelloedd newid wedi eu gwella’n sylweddol ac mae llifoleuadau bellach yn y maes hefyd – heb sôn am dwf sylweddol yn y nifoeroedd sy’n chwarae gyda’r timau ieuenctid!

Pan siaradodd Undeb Rygbi Cymru gyda Tony ychydig cyn y noson wobrwyo – cadanrhawyd nad oedd iechyd Meg Parry ar ei orau – wnaeth y ffaith i’r ddau ohonynt dderbyn Cydnabyddiaeth Arbennig yn fwy perthnasol fyth.

Dywedodd Geraint John: “Pan glysom ni nad oedd Meg wedi bod yn dda – ‘roedd cydnabod cyfraniad hynod werthfawr y ddau ohonyn nhw hyd yn oed yn fwy arbennig. “Maen nhw wedi gweithio’n arbennig o galed dros gyfnod maith o amser ar ran Clwb Rygbi’r Bala a’r gymuned leol ac ‘ry’n ni’n gwybod yn iawn bod pobl Penllyn yn gwerthfawrogi eu gwaith yn fawr. Mae dyled y gymuned leol a Rygbi Cymru’n fawr iddyn nhw ac ein braint ni oedd cyflwyno Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig iddyn nhw ar y noson. Diolch”