Y Bala’n gweu i ddathlu’r 700!

Gweu sgarff 250 medr o hyd

gan Lowri Rees Roberts
Keira

Keira Davies o Glwb Gweu Llanuwchllyn gyda’r sgarff

Bydd sgarff enfawr sydd wedi ei gweu gan bobl leol yn cael ei gosod o amgylch safle hen gastell y Bala, Gwynedd, ddydd Gwener, 14 Mehefin fel rhan o ddathliadau’r dref i nodi ei 700 mlwyddiant.

Mae Mehefin 2024 yn nodi pen-blwydd arbennig arwyddo siarter frenhinol oedd yn rhoi statws bwrdeistref rydd i’r Bala yn 1324.

Mae’r sgarff yn rhan o ymgyrch Y Bala 700 – Yma o Hyd i ddathlu hanes cyfoethog y dref a’i ffyniant saith canrif yn ddiweddarach!

Mae wedi ei sefydlu gan bwyllgor gwirfoddol o grwpiau lleol gyda chefnogaeth a chyllid gan Gyngor Tref y Bala.

Eisoes mae’r grŵp wedi bod yn harddu’r dref gyda blodau a basgedi crog, creu taith hanes rithiol gyda chodau QR, trefnu parkrun mewn gwisg ffansi, cynhyrchu sticeri a baneri a chynnal boreau coffi. Ac, mewn teyrnged i ddiwydiant oedd yn hynod bwysig i’r ardal ers talwm, wedi atgyfodi’r grefft o weu.

Roedd y Bala yn arfer bod yn enwog am ei diwydiant gwlân, ac am weu sanau yn arbennig yn y 18fed ganrif; dros y misoedd diwethaf mae rhai o’r trigolion wedi rhoi eu gweill ar waith unwaith eto, y tro hwn i greu degau o sgarffiau lathen o hyd.

Fe fydd y rhain yn creu un sgarff hir fydd yn cael ei gosod o amgylch Tomen y Bala –  hen gastell mwnt a beili sydd ym mhen dwyreiniol y dref – am 10:00 fore Gwener.

Meddai Lowri Rees Roberts, aelod o bwyllgor Y Bala 700 – Yma o Hyd: “Mae Clwb Gweu’r Bala a Chlwb Gweu Llanuwchllyn ynghyd â nifer o unigolion o’r ardal wedi bod yn brysur gyda’u gweill yn gweu degau o sgarffiau dros y chwe mis diwethaf ac wedi eu gwnïo gyda’i gilydd i greu un sgarff hir.

“Mi fydd blynyddoedd 3-6 Ysgol Godre’r Berwyn yn ymuno gyda ni ddydd Gwener i ddal y sgarff o amgylch y domen a hefyd o amgylch cae rygbi’r dref, cyn mwynhau paned a bisged fel rhan o’r dathliadau.

“Bwriad y gweithgaredd yw pontio’r cenedlaethau yma yn y Bala a braf fydd gweld y disgyblion ifanc a’r trigolion yn dod at ei gilydd i fwynhau dathliadau lliwgar Bala 700.”

Mae’r sgarff derfynol tua 250 metr o hyd meddai Keira Davies, sydd wedi bod yn helpu i gydlynu casglu’r sgarffiau.

“Mae’r prosiect wedi bod yn lot o waith i’r rhai sy’n gweu ond rydyn ni wedi cael lot o gefnogaeth gan bobl leol sydd wedi bod yn cyfrannu gwlân a sgarffiau gorffenedig i’r trefnwyr,” meddai.

I aros ar y thema gwlân, mae aelodau’r clwb crefftau wedi bod yn ‘bomio gwlân’ yn y dref hefyd gyda’u gwaith gweu a chrosio creadigol i’w gweld ar y stryd ers rhai wythnosau.

Arddangosfa a digwyddiadau eraill drwy 2024

Bydd gweithgareddau Y Bala 700 – Yma o Hyd yn para drwy gydol gweddill y flwyddyn gyda dathliadau hanesyddol, gorymdaith lusernau, cyngherddau a llawer mwy ar y gweill. Yn ogystal mae arddangosfa newydd sbon o hanes y dref wedi ei threfnu gan Gymdeithas Cantref.

Mae’r arddangosfa yn agor ddydd Sadwrn 22 Mehefin yng Nghanolfan y Plase a bydd yn para tan 12 Gorffennaf.

Nid yn unig y bydd modd dysgu am hanes yr ardal nôl i ddyddiau’r Rhufeiniaid bydd hefyd modd gweld llun o’r copi o’r siarter hynafol sy’n cael ei gadw yn Archifau Cenedlaethol Llywodraeth y DU yn Kew, Surrey.

Beth oedd Siarter 1324?

Roedd y Siarter a roddodd Edward II, brenin Lloegr, yn 1324 yn rhoi statws bwrdeistref rydd i’r Bala. Roedd hyn yn rhoi tir, cartref a hawliau i’w dinasyddion newydd oedd yn Saeson teyrngar i’r brenin.

Roedd yn galluogi’r bobl ddaeth i fyw i’r dref i ethol maer a beilïaid, sefydlu carchar annibynnol a chynnal marchnadoedd a dwy ffair flynyddol.

Roedd hefyd yn rhoi hawl iddyn nhw adeiladu wal o amgylch y dref i’w hamddiffyn, er na wnaeth neb erioed deimlo’r angen i wneud hyn!

Mae pwyllgor Y Bala 700 – Yma o Hyd yn defnyddio’r 700 mlwyddiant, nid i ddathlu rheolaeth Edward II dros y dref, ond i ddathlu’r ffaith bod y Bala yn ffynnu ac ‘yma o hyd’ 700 mlynedd wedi digwyddiad o’r fath.

Mae gan y trefnwyr fwy o ddigwyddiadau i’w datgelu – gan gynnwys dychweliad beibl Mari Jones i’r dref – felly cadwch lygad am y manylion ar ein gwefan Tegid360.