Llwyddiant ym Meifod i Langwm

Ar ddydd Sadwrn yr Eisteddfod cyfle i aelodau hŷn yr Urdd yw hi i gystadlu

Mirain Llwyd
gan Mirain Llwyd

Yn aelwyd wledig mae Aelwyd Llangwm yn ymfalchïo eu bod yn parhau i gystadlu ac nid yn unig yn cystadlu gyda’r mwyaf o aelodau ers degawd, a hynny yn ystod Eisteddfod y Bala yn 2014 ond hefyd yr aelwyd gyda’r mwyaf o aelodau yn eu côr dros 40 mewn niferoedd eleni. 

Ddiwedd Ionawr oedd hi pan bu i’r Aelwyd ail ddechrau ymarfer ar gyfer yr Eisteddfod a braf oedd gweld sawl aelod newydd yn ymuno â’r côr ac roedd hyn yn destun balchder yn yr Eisteddfod i ni eleni hefyd.

Wedi misoedd o hwyl ar nosweithiau Sul cafwyd cyngerdd yn Llangwm ar y cyd â phlant ysgolion Bro Tryweryn a Cherrig-y-Drudion fel cyfle i gynhesu eu lleisiau cyn i bawb fentro am Feifod.

Ddydd Sadwrn oedd cyfle Aelwyd Llangwm i gystadlu a’r aelwyd yn cystadlu ar gyfanswm o bedair cystadleuaeth, côr S.S.A (Côr Merched), Côr T.T.B (Côr Meibion), Côr SATB heb fod a mwy na 40 mewn nifer a Chôr SATB gyda mwy na 40 mewn nifer.

Daeth Llangwm i’r tri uchaf yn y bedair cystadleuaeth eleni.

‘Hwinagerdd y Morlo’ oedd cân y Côr S.S.A. a’r merched yn canu dan arweiniad Bethan Smallwood gydag Elin Rhys Owen ar y piano. Gallwch fwynhau’r perfformiad a enillodd yr ail wobr i’r merched fan hyn.

Môr ladron oedd y dynion a hwythau yn canu ‘Ar Ysgafn Droed’ yn y Côr T.T.B. unwaith eto dan arweiniad Bethan Smallwood gydag Elin Rhys Owen ar y piano. Enillodd eu perfformiad y drydedd wobr a gallwch fwynhau fan hyn.

Roedd dwy gân y côr eleni yn rai amserol iawn gyda geiriau ac ystyr ehangach o ystyried yr hyn sydd yn digwydd yr eiliad yma yn Gaza. Gyda chyfle i gael dangos cefnogaeth a chefnogi galwad am gadoediad ar lwyfan cenedlaethol penderfynodd yr aelwyd ddefnyddio’r platfform i adleisio neges Heddwch yr Urdd a neges yr Ŵylnos nos Wener. Ar ddiwedd perfformiad y côr mawr penderfynwyd codi baner wen a cholomen arni fel datganiad o heddwch.

‘Cana imi Gân o Heddwch’ oedd cân y Côr Bach ac rydym yn erfyn ar unrhyw un sy’n gwrando ar y gân yma i eistedd yn ôl a gwrando ar y geiriau fydd yn ddigon i bigo cydwybod. Roedd y côr dan arweiniad Meinir Lynch ac Elin Rhys Owen ar y piano a daeth y drydedd wobr yn ôl i Langwm. Dyma fideo o’r perfformiad.

Mae’r Eisteddfod yn cau yn flynyddol gyda pherfformiad y Côr Mawr a daeth pedwar aelwyd i’r llwyfan eleni. ‘Talu’r Pris yn Llawn’ oedd y gân dan sylw a’r aelwyd yn canu unwaith eto dan arweiniad medrus Meinir Lynch a dwylo diogel Elin Rhys Owen ar y piano. Y tro hwn, llwyddodd yr Aelwyd i gipio’r wobr gyntaf a gallwch fwynhau’r perfformiad buddugol fan hyn.

Hoffwn fel aelwyd ddiolch yn arbennig i rai sydd wedi gwneud i yn bosibl eleni. Diolch yn fawr i Gwenlli Aled, ysgrifenyddes yr Aelwyd, am gadw trefn ar bawb a threfnu ein bod oll wedi gallu cyrraedd yr Eisteddfod! Diolch i Brei am agor a chau’r neuadd i ni ar gyfer ymarferion wythnosol. Diolch arbennig i Meinir, Bethan ac Elin am yr oriau a’r oriau unwaith eto eleni yn ein paratoi ar gyfer yr Eisteddfod – da chi’ch tair werth y byd i gyd!

Os hoffech ymuno ag Aelwyd Llangwm neu ddilyn hynt a helynt yr aelwyd trwy’r flwyddyn cofiwch ein dilyn ar Facebook, Instagram ac X!