Liza yn rhedeg yn Llundain

26.2 o filltiroedd am y tro cyntaf

gan Lowri Rees Roberts

Llongyfarchiadau i Liza Francis sydd yn wreiddiol o Blas Isaf Cynwyd ar gwblhau marathon Llundain dros y penwythnos. Fe ymunodd Liza gyda miloedd o redwyr eraill a chasglu arian ar gyfer Ysbyty Gobowen (Ysbyty Robert Jones and Agnes Hunt yng Nghroesoswallt. Er bod Liza wedi arfer rhedeg ac wedi gwneud ambell i hanner marathon, dyma’r tro cyntaf iddi gwblhau’r26.2 o filltiroedd a hynny mewn pedair awr a 47 munud. Mae Liza yn mwynhau rhedeg ac mae hi’n aelod o Glwb rhedeg Dinbych – Denbigh Harriers. Er iddi fwynhau’r profiad dywedodd wrth Y Cyfnod bod ei chorff i gyd yn brifo heddiw sef Dydd Llun diwrnod yn dilyn y marathon mawr.

Dweud eich dweud