Bryn yn llwyddo yn ei farathon cyntaf

Rhedeg marathon Llundain mewn 4 awr a naw munud 

gan Lowri Rees Roberts
437134400_10168632051510006

Mae Bryn Jones o Lanycil sydd yn cael ei adnabod fel Bryn New Shop wedi cyflawni her penwythnos yma, wedi iddo redeg Marathon Llundain mewn 4 awr a naw munud. Bu llawer ohonom yn dilyn y marathon 26.2 o filltiroedd ar y teledu ddydd Sul a braf oedd dilyn camp y criw oedd yn rhedeg o’r ardal ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd Bryn yn un o’r 40,000 oedd yn rhedeg er mwyn casglu arian ar gyfer achosion da. Dechreuodd Bryn redeg yn y park run lleol dair blynedd yn ôl a’r marathon yn Llundain penwythnos diwethaf oedd y marathon cyntaf i Bryn ei redeg erioed. Wrth deithio adre o Lundain prynhawn dydd Llun dywedodd Bryn wrth Y Cyfnod : “ Roedd yn her gyffrous iawn. Dwi wedi mwynhau’r profiad yn ofnadwy. Roedd yn ffantastig yn Llundain ac yn debyg i garnifal enfawr. Wrth deithio adre o Lundain prynhawn dydd Llun dywedodd Bryn wrth Y Cyfnod : “ Roedd yn her gyffrous iawn. Dwi wedi mwynhau’r profiad yn ofnadwy. Roedd yn ffantastig yn Llundain ac yn debyg i garnifal enfawr. “Roedd fy enw ar y fest a phawb yn gweiddi fy enw er mwyn fy annog ymlaen. Roedd yn brofiad bythgofiadwy. “Dwi ychydig yn stiff heddiw ma ond mor falch fy mod wedi cwblhau’r marathon a hynny mewn amser da. Er gwaethaf y blinder a’r cyhyrau yn tynnu nid oedd Bryn am wrthod neud y marathon unwaith eto yn y dyfodol. “Yn sicr mi faswn i’n ystyried gwneud y marathon eto, ond dim heddiw,” ychwanegodd gan chwerthin Roedd Bryn yn rhedeg y marathon er mwyn casglu arian ar gyfer Dy Le di/ My Space. “Mae Emrys fy mab hynaf yn awtistig ac yn mwynhau mynychu Clwb Cymdeithasol ar gyfer plant awtistig o’r enw Dy Le di/ Your Space. “Mae Emrys yn dweud bod mynychu Dy Le di/ Your Space wedi ei helpu i dderbyn ei fod yn awtistig, mae’n le hapus ac mae wrth ei fodd yn chwarae yno gyda phlant eraill sydd ag awtistiaeth. “Hoffwn ddangos ein gwerthfawrogiad fel teulu i Dy Le Di/ Your Space am y gwahaniaeth maen nhw wedi’i wneud i Emrys drwy godi arian iddynt.” “Mae bywyd yn gallu bod yn arbennig o heriol i blant awtistig gan fod cyfarthrebu a deall pobl eraill a sefyllfaoedd gwahanol iddyn nhw. Mae plant awtistig yn fwy agored i gael eu heithrio yn gymdeithasol a hynny’n gallu arwain at ganlyniadau negyddol.