Mae Saran Mair o Lanfor ger Y Bala wedi ennill ei chap cyntaf penwythnos diwethaf wrth i ferched Cymru dan 18 ennill y frwydr yn erbyn y tîm o’r Eidal o 41-22. Roedd y cefnogwyr yn wyllt ym Mharc Eirias pnawn dydd Sadwrn wrth i Saran Mair o Pen Ucha’r Llan, Llanfor wibio hyd y cae i sgorio dau gais i dîm Cymru. Llwyddiant yn wir! Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r disgybl chweched dosbarth yn Ysgol Godre’r Berwyn wedi ennill enw iddi hi ei hun gyda’r bel hirgron a bydd cryn edrych ymlaen ar gyfer y gêm nesaf ymysg cefnogwyr Y Bala. Dywedodd Saran yn dilyn y gêm bod chwarae i Gymru wedi bod yn brofiad arbennig ac un a fydd hi’n cofio am byth. “Oedd hi’n wych iawn ennill yn erbyn yr Eidal ac yn brofiad anhygoel bod yn rhan o’r tîm. Ar ôl wythnosau o waith caled roedd yr holl ymarfer ac ymdrech i gyd yn talu ei ffordd.” Un sydd yn ymfalchïo yn llwyddiant Saran ydi Euros Jones, Swyddog WRU yr ysgol: Dywedodd wrth Y Cyfnod dros y penwythnos: “Mae ymroddiad Saran a’i theulu wedi bod yn anhygoel a hynny wedi cyfrannu yn fawr at ei llwyddiant. “Mae Saran wedi bod yn ddisgybl brwdfrydig iawn gydag awch ac agwedd dda i ddysgu a datblygu mewn rygbi. Mae mynd i ymarfer i Barc Eirias dair gwaith yr wythnos yn dipyn o ymroddiad a hoffwn longyfarch Saran ar ei llwyddiant,” ychwanegodd