Cai yn rhedeg marathon Llundain i ddiolch i elusen

Hyfforddi’n galed er mwyn ei fab

gan Lowri Rees Roberts
llun-Cai

Cai a Hari

Mae Cai Newell Jones sydd yn wreiddiol o Rhos y Fedwen, Llanuwchllyn ond bellach wedi ymgartrefu yn Nolgellauwedi bod yn hyfforddi’n galed er mwyn cwblhau Marathon Llundain mis yma.

Mi fydd Cai yn rhedeg y 26.2 o filltiroedd er mwyn codi arian at elusen sydd yn agos iawn at ei galon.

Mae’r elusen MACS (Microphthalmia, Anophthalmia a Coloboma Support) yn cefnogi plant ac oedolion sydd wedi eu geni heb lygaid neu gyda llygaid sydd heb ddatblygu’n iawn.

Heddiw, mae tua 114 o blant yn cael eu geni â chyflwr MACS yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.

Dywedodd Cai: “Ym mis Ebrill 2021, ganed fy mab, Hari, gyda Microphthalmia yn ei lygad chwith. Roedd hwn yn gyfnod heriol iawn i fi a fy nheulu. Roedd y cyflwr prin yn gwneud i ni deimlo ar goll ac nid oedd ein cwestiynau yn cael eu hateb..

“ Roedd elusen MACS, yn cynnig cefnogaeth wych inni ac rwyf am godi arian i’w helpu i barhau â’r gwaith y maent yn ei wneud i helpu teuluoedd fel fy un i.

“Rwyf hefyd yn obeithiol y bydd y broses gyfan yn helpu i godi ymwybyddiaeth sylweddol ar gyfer yr elusen anhygoel yma.”

Os ydych yn dymuno cyfrannu at MACS mae modd i chi wneud drwy dudalen Cai ar TCS London Marathon.

Ychwanegodd Cai: “Byddai unrhyw gyfraniad yn cael ei werthfawrogi yn fawr, ac os nad ydych yn gallu cyfrannu arian ar hyn o bryd, byddai rhannu fy stori gyda’ch ffrindiau a’ch teulu yn golygu’r byd i mi hefyd.”