Eisteddfod CFfI Meirionnydd 2024

Adroddiad a chanlyniadau Eisteddfod CFfI Meirionnydd

CFfI Meirionnydd
gan CFfI Meirionnydd
  • Yn gynt na’r arfer eleni, cynhaliwyd eisteddfod CFfI Meirionnydd yn Neuadd Dyfi, Aberdyfi. Daeth nifer dda o aelodau o saith clwb ar draws y sir i gystadlu. Cafwyd adloniant o safon drwy gydol y dydd. Ein beirniaid Cerdd eleni oedd Alwena Roberts ac Einir Wyn o Bwllheli, Heledd Glyn, Glantwymyn ar y Llefaru a’r Adran Ysgafn a Huw Dylan, Llangwm wedi cael y gwaith o feirniadu’r llenyddiaeth yn ogystal â Jane Lloyd Arthog yn beirniadu’r adran gelf. Diolch yn fawr iawn iddynt am eu gwaith. Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i un yn wreiddiol o’r Sir am fod mor barod i ddychwelyd atom bob blwyddyn, sef Elen Keen (Rhiwaedog gynt) i gyfeilio yn fedrus iawn.

Cangen Undeb Amaethwyr Cymru Meirionnydd oedd noddwyr y gadair eleni. Comisiynwyd Iolo Puw i’w chreu ac yn wir roedd yn gadair hardd iawn, gyda brethyn y glustog gan Gwenno Gelli. Gwych oedd cyhoeddi fod teilyngdod i’r gadair arbennig yma ac mi fydd yn ymgartrefu yn Nhrawsfynydd gan i Elain Iorwerth lwyddo i ddod i’r brig gyda’i chyfres o fonologau o dan y ffugenw ‘Rhinog’. Llongyfarchiadau Elain a phob dymuniad da iddi hi, a Swyn Hughes, Dinas Mawddwy a oedd yn fuddugol gyda’r gerdd yng Nghymru ymhen pythefnos.

Wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen roedd yn braf clywed enwau pob clwb yn dod i’r brig yn yr amrywiol gystadlaethau, a’r gystadleuaeth am darian yr Eisteddfod am fod yn agos tu hwnt. Ac yn wir, erbyn i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi dyfarnwyd clwb Cwmtirmynach a Phrysor ac Eden yn gyfartal gyntaf gyda 70 o farciau. Maesywaen wedyn yn drydydd ar 63 a Glannau Tegid yn bedwerydd gyda 60 o farciau. Agos iawn yn wir.

Llongyfarchiadau i bob aelod am gamu ar y llwyfan yn ystod y dydd, a diolch yn arbennig i’r hyfforddwyr a’r cyfeilyddion am eu gwaith dros yr wythnosau diwethaf ac i bawb fu’n cefnogi i wneud y diwrnod yn llwyddiannus. Bydd pymtheg eitem llwyfan a’r holl waith llenyddol a chelf yn mynd ymlaen i gynrychioli’r Sir yn eisteddfod Cymru a gynhelir yn Ysgol Bro Myrddin ar yr 2il o Dachwedd. Bydd darlledu o’r eisteddfod i’w gael ar S4C.

Dyma ganlyniadau llawn eisteddfod CFfI Meirionnydd.

UNAWD 17 OED NEU IAU: 1af Malena Aled, Maesywaen, 2il Mia Casey, Sarnau. UNAWD OFFERYNNOL 28 OED NEU IAU: 1af Malena Aled, Maesywaen, 2il Aneira Jones, Bryncrug, 3ydd Llio Iorwerth, Prysor ac Eden. LLEFARU 17 OED NEU IAU: 1af Aneira Jones, Bryncrug, 2il Gethin Ifans, Dinas Mawddwy. UNAWD 28 NEU IAU: 1af Tomos Heddwyn, Prysor ac Eden, 2il Lleucu Arfon, Cwmtirmynach. UNAWD SIOE GERDD NEU FFILM 17 NEU IAU: 1af Lowri Jarman, Glannau Tegid, 2il Tesni Roberts, Maesywaen. ADRODDIAD DIGRI 28 OED NEU IAU: 1af Malena Aled, Maesywaen, 2il Enion Williams, Maesywaen. UNAWD CERDD DANT DAN 18 OED:Huw Ifan, Sarnau. UNAWD ALAW WERIN 28 OED NEU IAU: 1af Tomos Heddwyn, Prysor ac Eden, 2il Cadi Mars Jones, Cwmtirmynach. YMGOM 17 OED NEU IAU: 1af Maesywaen, 2il Sarnau, 3ydd Dinas Mawddwy. UNAWD CERDD DANT DAN 31OED: 1af Lleucu Arfon, Cwmtirmynach, 2il Elain Iorwerth, Prysor ac Eden. PARTI LLEFARU 28 OED NEU IAU: 1af Glannau Tegid, 2il Maesywaen, 3ydd Cwmtirmynach. DEUAWD 28 OED NEU IAU: 1af Cadi Mars Jones a Lleucu Arfon, Cwmtirmynach, 2il Elain Iorwerth a Tomos Heddwyn, Prysor ac Eden. DARN HEB EI ATALNODI 28 OED NEU IAU: 1af Lowri Dascalu, Cwmtirmynach, 2il Enion Williams, Maesywaen, 3ydd Elis Garmon, Glannau Tegid. CANU EMYN 28 OED NEU IAU 1af Tomos Heddwyn, Prysor ac Eden, 2il Lleucu Arfon, Cwmtirmynach, 3ydd Enion Williams, Maesywaen. DAWNSIO DISGO, HIP-HOP NEU STRYD: 1af Maesywaen. SGETS 28 OED NEU IAU: 1af Cwmtirmynach, 2il Maesywaen, 3ydd Prysor ac Eden. UNAWD SIOE GERDD NEU FFILM 18-28 OED: 1af Lleucu Arfon, Cwmtirmynach, 2il Huw Ifan, Sarnau, 3ydd Tomos Heddwyn, Prysor ac Eden. MEIMIO I GERDDORIAETH 28 OED NEU IAU: 1af Glannau Tegid, 2il Prysor ac Eden, 3ydd Sarnau. ENSEMBLE LLEISIOL 28 NEU IAU 1af Cwmtirmynach, 2il Prysor ac Eden, 3ydd Maesywaen. DEUAWD NEU DRIAWD DONIOL 28 NEU IAU: 1af Mia a Gwyn, Sarnau, 2il Tesni ac Alys, Maesywaen. PARTI DEULAIS 28 NEU IAU: 1af Glannau Tegid, 2il Cwmtirmynach, 3ydd Prysor ac Eden. CÔR CYMYSG 28 NEU IAU: 1af Meirionnydd.

Adran Gwaith Cartref. Fel y gwyddoch eisioes, Elain Iorwerth o glwb Prysor ac Eden oedd yn fyddugol ac ennill cadair yr eisteddfod eleni, ond dyma ganlyniadau’r adran waith cartref.

RHYDDIAITH 28 OED NEU IAU: 1af Elain Iorwerth, Prysor ac Eden, 2il Elain Iorwerth, Prysor ac Eden, 3ydd Elis Dafydd, Sarnau. CERDD 28 OED NEU IAU: 1af Swyn Hughes, Dinas Mawddwy, 2il Huw Jarman, Dinas Mawddwy, 3ydd Non Davies, Glannau Tegid. POSTER 16 OED NEU IAU: 1af Elin Davies, Cwmtirmynach, 2il Ioan Jones, Sarnau, 3ydd Aneira Jones, Bryncrug ac Elias Jones, Glannau Tegid. LLYTHYR AT AELOD O SENEDD CYMRU 21 OED NEU IAU: 1AF Lliwen Williams, Maesywaen, 2il Elan Lois, Cwmtirmynach, 3ydd Betsan ap Gwynfor, Sarnau. ADOLYGIAD O FFILM 28 OED NEU IAU: 1AF Leusa Jenkins, Dinas Mawddwy, 2il Heledd Jones, Bryncrug, 3ydd Iolo Evans, Bryncrug. BRAWDDEG 28 OED NEU IAU: 1af Aneira Jones, Bryncrug, 2il Glesni Wyn, Dinas Mawddwy, 3ydd Mari Ifan, Glannau Tegid. LIMRIG 28 OED NEU IAU: 1af Gethin Ifans, Dinas Mawddwy, 2il Fflur Haf, Glannau Tegid, 3ydd Cêt Atherton, Prysor ac Eden. FFOTOGRAFFIAETH 28 OED NEU IAU: 1af Huw Berwyn, Glannau Tegid, 2il William Roberts, Glannau Tegid, 3ydd Eifion Williams, Sarnau. CELF 28 OED NEU IAU: 1af Heledd Jones, Bryncrug, 2il Elliw Jones, Glannau Tegid, 3ydd Lliwen Jones, Glannau Tegid. CYWAITH CLWB: 1af Bryncrug, 2il Prysor ac Eden. CLAWR BLWYDDLYFR: 1af Martha Evans, Glannau Tegid, 2il Lleucu Rowlands, Sarnau, 3ydd Mari Ifan, Glannau Tegid.

Llongyfarchiadau mawr i bawb unwaith eto a phob lwc yn Sir Gaerfyrddin.