Noson yng nghwmni Cleif Harpwood a Geraint Cynan

Cyfle i ail fyw naws y saithdegau yng Nghorwen

gan DELYTH THOMAS

Cleif Harpwood yn ôl yng Nghorwen hefo Geraint Cynan yn yr Owain Glyndwr

Dewch i ail fyw Breuddwyd Roc a Rôl Cymru yng ngwesty hanesyddol Owain Glyndwr! Rydym wrth ein boddau gallu croesawu Cleif Harpwood, prif leisydd Edward H Dafis a Geraint Cynan yn ôl i Gorwen. Bydd y noson anhygoel yma’n cael ei chynnal ar Fedi 14, 2024 am 19:30.

Nid cerddor yn unig fo Cleif Harpwood, ond symbol o ddiwylliant roc Cymru. Fel prif Leisydd Edward H, a bandiau eraill, roedd yn rhan annatod o sefydlu’r sin roc Gymraeg yn y 70au. Roedd Edward H yn torri cwys newydd mewn adloniant Cymraeg gan ddod a cherddoriaeth roc i gynulleidfa ifanc Gymraeg. Fe dyfodd y gynulleidfa’n ffyddlon iawn i’r grŵp wrth iddynt ddatblygu’n un o’r bandiau Cymraeg mwyaf erioed. Roedd caneuon Edward H yn canu cloch hefo cynulleidfa ifanc, a daeth nifer o’r caneuon yn anthemau i genhedlaeth. Roedd Edward H. A Chorwen yn mynd law yn llaw, a’u gig cyntaf yma yn 1973, a’r gig ffarwel (gyntaf) enwog yn 1976. Yn ôl Cleif: “fuon ni’n ymwelwyr cyson a’r hen bafiliwn yn y 70au. Corwen oedd ein Mecca.”.

Bydd Cleif a Geraint yn cyflwyno fersiynau acwstig o rai o’r clasuron yma oedd yn sain cenhedlaeth, gan fynd a chwi ar daith gerddorol o’r caneuon wnaeth Edward H yn fand mor eiconig. Nid cyngerdd yw’r noson fodd bynnag, ond cyfle i gymdeithasu hefo Cleif a Geraint wrth iddynt sgwrsio, hel atgofion a dweud storïau yn ogystal a chanu ambell i gan!

Athrylith yr Allweddellau


Mae pawb yn gyfarwydd â gweld Cleif yn perfformio hefo Geraint Cynan bellach. Mae Geraint yn cyfansoddwr a cherddor sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn rhai o fandiau mywaf adnabyddus Cymru. Mae perfformiadau dawnus Geraint yn cyd-fynd yn berffaith hefo llais unigryw Cleif gan greu profiad cerddorol sy’n llwyddo i adlewyrchy’r gorffennol a bod yn newydd ar yr un pryd.

Pam yr Owain Glyndŵr?


Mae cymuned Corwen wedi bod yn brysur yn codi arian i brynu’r gwesty, ar o’r diwedd mae hyn ar fin digwydd. I ddathlu fod yr hen westy am gael ei berchnogi gan, ac er budd y gymuned, be well na dathlu trwy ddod ac adloniant Cymraeg o’r radd flaenaf yn ôl i Gorwen?

Archebwch Docyn Rwan!

Dyma gyfle prin i weld adloniant chwedlonol Cymru, yn ôl yn ei gartref ysbrydol, yn ôl yng Nghorwen! Gyda thocynnau ond yn £10, fe fyddant yn siŵr o werthu’n gyflym. Sicrhewch eich bod chi’n ôl yng Nghorwen hefo Cleif a Geraint am noson llawn storïau, chwerthin a chaneuon bythgofiadwy Edward H.

Manylion

Dyddiad: Sadwrn, Medi 14, 2024
Amser: 19:30
Lleoliad: Gwesty Owain Glyndŵr, Corwen
Tocynnau: £10.00

I archebu tocyn, ewch i https://skiddle.com/e/38289321 neu alw [Phone Number]. Mae’r tocynnau yn gwerthu fel slecs, felly archebwch nawr rhag cael eich siomi!

Dweud eich dweud