Yr Eisteddfod a ddaw!

Pob Hwyl i bawb yn yr Eisteddfod!

gan Geraint Thomas

Deuddydd cyn i’r ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop gychwyn ym Mhontypridd, ac mae ’na hen baratoi yn mynd rhagddo.  Wrth i’r garafán gael ei sgwrio, a’r babell gael awyr iach mae nifer ar draws y fro yn paratoi i droedio llwyfannau’r ŵyl hefyd.  Bydd cynrychiolaeth dda o Benllyn fel arfer yn cystadlu ac yn perfformio, a bydd cyfle i bawb sydd ddim am fentro i Bontypridd i wylio’r cyfan ar y sgrin fach.

Pob hwyl, felly, i bawb sydd yn cystadlu – gobeithio y daw tlysau di-ri ‘nol i fyny’r A470 wythnos nesa’, ac y cawn gyfle i ddathlu’r llwyddiannau ar dudalennau Tegid360.