Dechreuodd Chris Grube, sydd yn wreiddiol o ardal y Rhyl hwylio ar Lyn Tegid pan oedd o’n ddeg oed. Roedd Chris a’i dad yn gwneud y daith i Benllyn bron pob penwythnos i hwylio. Wrth gwrs, Llyn Tegid ydi un o lynnoedd hwylio gorau Cymru, ac roedd hi’n feithrinfa dda i Chris.
Buan iawn y cafodd Chris y cyfle i gynrychioli Cymru yn y gamp, ac erbyn 2004 roedd yn rhan o dîm hwylio ieuenctid Prydain.
Daeth y cyfle Olympaidd cynta’ i’w ran yng ngemau Rio yn 2016, ble daeth yn 3ydd yn y dosbarth 470. Cafodd ei alw ‘nol i’r tîm Olympaidd yn 2020, gan gystadlu yn Tokyo.
Bydd Chris yn ymuno a’r nifer fwyaf erioed o Gymry mewn gemau Olympaidd sydd wedi eu cynnal dramor – 31 i gyd (dim ond un yn llai na’r record yng ngemau Llundain yn 1948).
Cwch deulaw ydi’r dosbarth 470, sydd wedi bod yn rhan o’r gemau ers peth amser, a bydd y gemau yn cychwyn go-iawn i Chris yn y rowndiau rhagbrofol ar Awst yr 2il. Bydd y cwbl i’w weld ar y teledu fel arfer.
Mae Chris dal yn aelod yma yn y Bala, ac yn aml i’w weld yn hwylio neu’n rigio ger Pont Mwnwgl-y-Llyn pan nad ydi o’n hwylio mewn gemau Olympaidd.