15 Copa i gofio Gareth Parc

Her yng nghanol mynyddoedd Eryri i gofio gwr, tad, brawd, yncl a ffrind arbennig

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts

Yn gamp roedd Gareth wedi’i gwblhau sawl gwaith, penderfynodd Morus a Gruff wneud yr her a gosod targed o 24 awr i’w hunain. Ymunodd neiaint Gareth – Robat a Miall, a ffrind i Gruff – Gethin, gyda’r ddau ar yr her a hefyd Elin, Gwenllian a Lois ar gyfer y 7 mynydd olaf. Llwyddodd y pump i gwblhau’r her – o un copa i’r llall – mewn amser o 13 awr a 50 munud. 

Fel ei dad, roedd Gareth yn caru’r mynyddoedd ac Eryri ac wedi cwblhau her y 15 copa sawl gwaith yn ystod ei fywyd. Bu i Gareth farw yn annisgwyl yn ôl ym Mis Ionawr eleni a Morus a Gruff yn benderfynol i wneud her er cof – a pha well ffordd na throedio’r un llwybr ac yr oedd Gareth wedi’i wneud sawl gwaith.

Cychwynnodd y pump i fyny am Grib Goch am 3:30 y bore â’r daith yn un sydd wedi’i rhannu fwy neu lai yn dri set o fynyddoedd. Yn gyntaf, roedd rhaid concro’r Grib Goch, Crib y Ddysgl a’r Wyddfa ac wedyn mynd lawr pas Llanberis. Ymlaen wedyn i’r ail set a’r rhai o’u blaenau oedd Elidyr Fawr, Y Garn, Glyder Fawr, Glyder Fach a gorffen gydag ychydig o ddringo ar Tryfan.

Yn dilyn hyn aeth y pump i lawr i Ddyffryn Ogwen a mwynhau cinio cyn cael Elin, Gwenllian a Lois yn ymuno â nhw er mwyn rhoi’r egni ar gyfer y cymal olaf. Aethpwyd ymlaen wedyn i wneud Pen Yr Ole Wen, Carnedd Dafydd, Yr Elen, Carnedd Llewelyn, Foel Grach, Garnedd Uchaf a Foel-fras cyn gorffen mewn amser penigamp.

Roeddent yn casglu ar gyfer Mind Cymru – achos teilwng ac agos iddynt ac mae modd cyfrannu trwy’r linc yma – Gruffudd Dafydd is fundraising for Mind (justgiving.com)

Rhannodd Gruff y neges yma:

Fysa ni’n hoffi diolch i bawb a gyfranodd i’r achos yma mor hael. Roeddan ni’n teimlo’n falch iawn cael cwblhau taith mor braf er cof annwyl am dad, a codi pres at achos oedd yn agos at ei galon

Diolch yn fawr i bawb gefnogodd mewn unrhyw ffordd.