Golffio i gofio Ynyr

Beth am ymuno â chystadleuaeth golff i gofio am Ynyr Yaxley?

gan Geraint Thomas
Clwb-Golff-Bala

Clwb Golff y Bala

Tri-Chopa

Criw Her y Tri Chopa

Ar Orffennaf yr 20fed bydd cystadleuaeth arbennig iawn yng Nghlwb Golff y Bala.  Bydd diwrnod cyfan yn cael ei neilltuo i gofio Ynyr Yaxley o Langwm a gollwyd chwe blynedd yn ôl i gancr yn 30 oed.

Disgwylir tua 40 o golffwyr i gystadlu am Dlws Coffa Ynyr Yaxley trwy chwarae 18 twll ar un o gyrsiau golff harddaf Cymru.  Bydd holl elw’r diwrnod yn mynd at gronfa Young Lives v Cancer. I danlinellu pwysigrwydd y gronfa bydd nyrs yn bresennol yn y gwobrwyo ar ddiwedd y dydd – geithiwr a fu’n gofalu am Ynyr yn yr hosbis a roddodd ofal iddo. Bydd siec yn cael ei chyflwyno i’r elusen yn ystod y seremoni gwobrwyo ar ddiwedd y dydd.

Dim ond un o gyfres o ddigwyddiadau i gofio am Ynyr ydi’r gystadleuaeth golff.  Bu i griw o ardal Penllyn ddringo tri chopa uchaf ynysoedd Prydain ar yr 8fed o Fehefin eleni.  Llynedd dringodd y criw tri chopa Cymru i godi arian at yr un achos.

Yn ôl Huw Roberts, capten Clwb Golff y Bala, –

“Braint ydi cael trefnu’r gystadleuaeth yma yn ystod fy mlwyddyn fel capten.  Roedd Ynyr yn ffrind da i gymaint ohonom ni, ac er y golled, mai’n braf cael dod at ein gilydd fel hyn i gofio amdano ac i godi arian at achos mor deilwng.”

Hyd yn hyn mae’r gronfa wedi hen fynd heibio £8,000 ac yn agosáu at £9,000 – ac mae pop ceiniog yn cyfri’ – felly cliciwch yma i gyfrannu i’r achos.

Beth amdani? Os am gymryd rhan yn y gystadleuaeth am dlws Ynyr – cysylltwch â’r Clwb Golff i sicrhau eich lle ar y tî cyntaf.