Teulu cerddorol yn diddanu yn Llangollen

Perfformiad Eisteddfod Llangollen

gan Rhian Thompson

Cafwyd berfformiad bywiog a thalentog gan driawd Billy Thompson ar faes yr Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen – pnawn Sadwrn y 5ed o Orffennaf.

Trodd y triawd i bedwarawd wrth i fab Billy ymuno a hwy. Mae Sam yn bymtheg oed a newydd eistedd ei arholiadau Tgau. Fe ddechreuodd chware y ffidl fel ei dad pan yn chwech oed ond wedi troi at y guitar fel ei brif offeryn. Mae Sam hefyd yn cyfansoddi ac yn canu caneuon ei hun.

Edrychwn ymlaen i glywed mwy gan Billy a Sam a hefyd Rhian Thompson. Bu’r tri yn diddanu yn Eglwys Llandrillo nos Fercher, 3 ydd o Orffennaf . Hyfryd cael grwp teulol yn cyd berfformio yn lleol .